Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Mieri (gweithdy ar gyfer pob oedran)

1 Gorffennaf 2023

Time: 10yb - 3yp

Gweithdy

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus am ddim gyda’r artist a’r cychwynnwr Julie Upmeyer ar daith maes i Blas Bodfa, maenordy 100 oed ar Ynys Môn.

Mae’r gweithdy hwn yn wahoddiad i’ch cynnwys eich hun yn y continwwm o le – lle o greadigrwydd ac ysbrydoliaeth drwy gydol ei hanes hir. Byddwn yn profi’r prosiectau parhaus ym Mhlas Bodfa, gan archwilio creadigrwydd trwy weithrediadau mieri, planhigyn sydd wedi esblygu i ledaenu’n gyflym, gan fanteisio ar dir agored. Mae mieri yn barhaus eu natur, ac yn hael, bron yn amhosibl eu hattal.

Cyfarfod ym Mostyn, bydd bws yn mynd â phawb i Blas Bodfa. Rydym yn eich cynghori i ddod â phecyn bwyd gyda chi. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sylwch efallai y bydd ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd i dynnu llun ar y diwrnod.

Artist profiles and statements

Julie Upmeyer

Mae Julie Upmeyer yn artist a chychwynnydd sy’n creu cerfluniau a gwrthrychau, perfformiadau a gosodiadau. Mae hi’n creu prosiectau ymchwiliol hirdymor sy’n cyfuno ei nwydau niferus: haenau a llafur – – – dimensiynau ac ymroddiad i grefft – – – systemau, sylweddau, a phethau sgleiniog. Mae ei gwaith yn aml yn ganlyniad uniongyrchol iddi drin deunydd a ddewiswyd, dro arall mae’n mwynhau’r her o ymateb i ofod, lle neu thema benodol.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr