Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Cyfansoddiad natur

25 Awst 2023

Time: 2:30-3:30

Siarad

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim gyda’r artist Heledd Wyn Hardy.

Yn y digwyddiad hwn bydd Heledd yn trafod sut mae bod ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein creadigrwydd a sut i ystyried cyfansoddi a fframio i rannu ein gweledigaeth.

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Artist profiles and statements

Heledd Wyn Hardy

Mae Heledd wedi bod yn dehongli a chipio eiliadau ar ffilm ers plentyndod, gan chwarae gyda golau a symudiad i ddod â chymeriadau a’u straeon yn fyw. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda lluniau llonydd a symudol i ddal momentau. Ar ôl astudio Celfyddyd Gain, mae ganddi lygad craff am fanylion ac mae’n mwynhau dehongli delweddau’n greadigol. Gyda gradd mewn Drama, a hyfforddiant NFTS a’r BBC, gan arbenigo mewn Ffilm a Theledu, mae hi’n dod â chyffro’n fyw trwy lens. Dyma sgil y mae hi wedi bod yn ei hogi yn ystod ei gyrfa, gan sicrhau ei bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technolegol, ond hefyd yn cynnal ymdeimlad traddodiadol o adrodd straeon i ddal dychymyg y gynulleidfa. Mae hi’n mwynhau archwilio, arholi ac arbrofi er mwyn cyfoethogi a datblygu ei gwaith. Mae hi wedi arddangos a sgrinio ei gwaith yn eang.

Book

Event information

Cost: Am Ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr