Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

AM10 Taloi Havini: Taith Sain Ddisgrifiad

7 Chwefror 2024

Time: 14:00 - 15:00

Siarad

Taloi Havini, Habitat (2017), installation view. Photo: Stuart Whipps

Ymunwch â Gweni Llwyd, cynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi 10, ar gyfer taith sain ddisgrifiad arbennig o amgylch arddangosfa gelf Taloi Havini ar 7 Chwefror. Mae’r arddangosfa’n rhan o Artes Mundi 10, sef prif arddangosfa celfyddyd gyfoes ryngwladol y DU a gynhelir bob dwy flynedd.

Bydd y daith hon, sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer yr Artist, ac yn darparu delwedd feddyliol bwerus a fydd yn goleuo’r gwaith a’r syniadau sydd wedi’u cynnwys.

Mae croeso i gŵn tywys. Rydym yn eich cynghori i ddod â chyfaill neu rywun sy’n gallu gweld gyda chi. Bydd gennym nifer cyfyngedig o staff ar gael i helpu ar y diwrnod.

Cynhelir y daith ar lawr gwaelod Mostyn. Bydd lefelau golau a sain yn yr orielau yn cael eu haddasu. Mae’r arddangosfa’n cynnwys un ffilm tair-sianel a chyfres o ffotograffau.

Os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth ychwanegol o ran mynediad, neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]

Artist profiles and statements

Taloi Havini

Ganwyd Taloi Havini (g 1981, Llwyth Nakas, pobl Hakö) yn Arawa, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville, ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Brisbane, Awstralia. Mae ei hymarfer ymchwil yn seiliedig ar ei chysylltiadau ar ochr ei mam â’i gwlad a chymunedau yn Bougainville. Amlygir hyn mewn gwaith a grëwyd gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain a fideo, cerfluniau, gosodiadau trochi a phrint.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr