Arddangosfa
Mae Rhwng Rhagfynegiad ac Adolwg yn arddangosfa arolwg o weithiau gan Ding Yi, ffigwr blaenllaw ym maes tynnu geometrig Tsieineaidd, gyda gweithiau ar gynfas, pren a phapur, wedi’u creu dros y deugain mlynedd diwethaf.
Gan dynnu ar athroniaeth y Dwyrain yn ogystal ag estheteg y Gorllewin, mae’r arddangosfa’n cyflwyno ystod o ddulliau o beintio cyfoes, o weithiau arbrofol, seiliedig ar broses i dechnegau mwy traddodiadol. Drwy gydol ei yrfa helaeth, mae Ding wedi defnyddio’r methodolegau hyn i archwilio safbwyntiau trawsddiwylliannol, gan fynd i’r afael ag effaith datblygiad technolegol cyflym, trefoli, a newidiadau cymdeithasol ehangach.
Mae’r elfen ‘rhagfynegiad’ yn nheitl yr arddangosfa yn cyfeirio at y defnydd o’r arwydd croes (boed yn ‘+’ neu’n ‘x’) fel ystum neu farc symbolaidd. Mae ei waith yn pontio estheteg ffurfiol y Gorllewin a’r Dwyrain tra hefyd yn rhagweld y cod deuaidd – conglfaen gweledol yr oes ddigidol heddiw.
Adlewyrchir yr agwedd ‘adolwg’ yn y detholiad o weithiau sy’n ymestyn o’r 1980au i’r presennol, cyfnod a nodwyd gan drawsnewidiadau cymdeithasol sylweddol, gan gynnwys cwymp Comiwnyddiaeth Sofietaidd, dirywiad y Freuddwyd Americanaidd, yn ogystal â thwf Tsieina a De-ddwyrain Asia.
Mae ymarfer Ding, gyda’i ddull unigryw sy’n seiliedig ar fotiffau, yn cynnig lens y gallwn ddeall canlyniadau’r newidiadau hanesyddol hyn drwyddi.
Mae Rhwng Rhagfynegiad ac Adolwg yn datgelu meistrolaeth Ding o fewn llywio’r croestoriadau rhwng traddodiad ac arloesedd, gan dywys gwylwyr ar daith drosgynnol trwy iaith weledol lle mae pob trawiad brws yn dweud y cyfan.
Wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, cyn Gyfarwyddwr Mostyn, a Kalliopi Tsipni-Kolaza, Curadur y Celfyddydau Gweledol ym Mostyn, cefnogir yr arddangosfa’n hael gan Timothy Taylor.