Arddangosfa
Mae Roda Viva yn arddangosfa o weithiau sydd newydd eu comisiynu gan Vanessa da Silva.
Gan dynnu ysbrydoliaeth o dreftadaeth Brasil da Silva – hanes teuluol, cerddoriaeth, dawns, ac etifeddiaeth yr artistiaid Brasil fel Helio Oiticica – mae’r gwaith yn archwilio themâu sy’n ymwneud â hunaniaeth, llinach, tynged, llawenydd a chof.
Mae Roda Viva, sy’n golygu ‘olwyn fyw’, yn cyfeirio at fywyd mewn mudiant neu symudiad mewn bywyd. Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys tecstiliau, cerfluniau a gweithiau ar bapur, yn canolbwyntio ar y cylchoedd amrywiol o fywydau, yr hanes sy’n cael ei gario o genhedlaeth i genhedlaeth, a’r rhyng-gysylltiad rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae’r teitl hefyd yn cyfeirio at y ‘roda de samba’ (cylch o ddawns), lle mae pobl yn ymgynnull i ddawnsio, canu a chwarae cerddoriaeth, nid yn unig mewn partïon stryd, ond fel arfer arwyddocaol o fewn seremonïau crefyddol ym Mrasil. Mae cylch o’r fath, lle mae symudiad cyrff yn creu dirgryniad a rhythm, yn cynnig trosiad pwerus ar gyfer bodolaeth gyfunol a chysylltiad ysbrydol.
Wrth herio ffurfioldeb y gofod, mae lliw, rhythm a symudiad yn cyfuno i greu profiad gweledol a gofodol llawen, gan ddathlu mynegiant rhyddid. Mae’r ffurfiau cerfluniol yn gwahodd yr ailystyried o’n cyrff fel amod parhaol o brofiad. Cyflwynant safle lle y mae ysbryd a rheswm yn croestorri, yn cyfnewid, yn dadgodio, ac yn cyfnewid, gan geisio gwneud synnwyr o bob peth bydol, a’r rhai nad ydynt.
Curadir Roda Viva gan Kalliopi Tspini Kolaza, Curadur y Celfyddydau Gweledol, Mostyn.
Cefnogir yr arddangosfa yn garedig gan Foundation Foundation, Yr Ampersand Foundation a’r Henry Moore Foundation.
Vanessa da Silva: Roda Viva Perfformiad Byw