Gweithdy plant

Ymunwch â ni yn oriel Mostyn ar gyfer y gweithdy galw heibio hwn i deuluoedd a phlant ifanc. Byddwn yn gwneud pennau ceffylau i ddathlu traddodiad gwerin Cymreig y Fari Lwyd, traddodiad gaeafol i annog cynhaeaf da yn y flwyddyn i ddod. Casglwch eich holl rubanau a rhosedi o’ch anrhegion, byddant yn dod yn ddefnyddiol i addurno pen eich ceffyl!
Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio ar gyfer teuluoedd a phlant 5+, felly galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 3pm, nid oes angen profiad.
Nid oes angen tocyn arnoch i fynychu’r digwyddiad hwn, dim ond galw heibio unrhyw bryd.
Ariennir y sesiwn hon yn hael gan Ariannu Ffyniant a Rennir.



