Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Taith BSL gyda Ein Byd Gweledol – Apostolos Georgiou yn Oriel Mostyn

25 Ionawr 2025

Time: 14:00 - 15:00

Siarad

Apostolos Georgiou, Matters of the Unconscious, 2024. Installation view at Mostyn. Photo: Rob Battersby.

Rydym yn partneru â rhwydwaith ‘Ein Byd Gweledol’ i gyflwyno taith BSL o amgylch Apostolos Georgiou: Matters of the Unconscious, yn Mostyn Gallry, dan arweiniad tywysydd Byddar sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol.

Arddangosfa o baentiadau a darluniau gan yr arlunydd Groegaidd Apostolos Georgiou yw Matters of the Unconscious, a hwn yw ei gyflwyniad sefydliadol cyntaf yn y DU.

Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei arddangos, ei gyd-destun a chipolwg ar arfer a chefndir yr Artist. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.

Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.

Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]

Ariennir y digwyddiad hwn yn hael gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr