Gweithdy

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu agoriad ein harddangosfa “Carreg Ateb: Gweledigaeth neu Freuddwyd?” yn Y Mostyn drwy gymryd rhan yn y gweithgaredd rhad ac am ddim hwn. Byddwch chi’n gwneud penwisg sy’n ymgorffori elfennau o’r arddangosfa, i chi ei gwisgo wrth i’r dathliadau ddechrau!
Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer pob oed a gallu, galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am – 1pm neu 2:30pm – 4:30pm.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]
Yr haf hwn, mae lleisiau ifanc pwerus yn gwrthdaro â chelf mewn cyfres o berfformiadau ac arddangosfeydd byw ledled Gogledd Cymru, Llundain ac ar-lein.
Wedi’i gyflwyno gan Gwmni Ifanc Mostyn a Frân Wen fel rhan o gomisiwn dathlu a guradwyd gan Jeremy Deller i ddathlu daucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn digwydd fel rhan o Triumph of Art, prosiect cenedlaethol gan yr artist Jeremy Deller. Fe’i comisiynwyd gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain, fel rhan o NG200, ei dathliadau daucanmlwyddiant. Mae Triumph of Art yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Mostyn yn Llandudno, Coleg Celf a Dylunio Duncan o Jordanstone yn Dundee, The Box yn Plymouth a The Playhouse yn Derry-Londonderry. Cefnogir gan Gronfa Gelf.
Cefnogir Carreg Ateb yn garedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cadw a Chyngor Sir Gwynedd. Cefnogir yr arddangosfa ym Mostyn gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Foyle, Sefydliad Cymunedol Cymru ac Ystadau Mostyn.