Digwyddiad

Mae Re-becayyb yn waith perfformio newydd gan Esyllt Angharad Lewis yn ailymweld â’i hysgol gynradd sydd bellach wedi cau yn ail-greu hanes Terfysgoedd Rebeca yn yr ardal o amgylch Ysgol Felindre ger Abertawe. Gan chwarae gydag elfennau cerddorol byw, atgofion hanesyddol a bylchau mewn amser a lleferydd, bydd Re-becayyb yn defnyddio llwyfan a grisiau gosodiad Esyllt i fod mewn deialog â’r gwaith fideo sydd wedi bod yn chwarae o fewn y llwyfan drwy gydol yr arddangosfa,gan sbleisio rhwng sain y nawr, ac yna, a draw fan yna.
Bydd y perfformiad yn cymryd tua 30 munud ac mae rhai seddi ar gael.
Digwyddiad yn yr iaith Gymraeg yw hwn.



