Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gwreiddiau yng Nghymru 2025

20 Medi 2025 - 3 Chwefror 2026

Arddangosfa Manwerthu

Satoko Takemura

Darganfyddwch ddetholiad cyfoethog o grefftau, dyluniadau a phrintiau cyfoes dros y Nadolig yn Siop Mostyn.

Mae ein harddangosfa manwerthu, ‘Gwreiddiau yng Nghymru’ yn cynnwys casgliad o artistiaid a gwneuthurwyr wedi’u dewis â llaw, pob un â chysylltiadau â Chymru – boed hynny drwy enedigaeth, preswylfa neu addysg. Gan arddangos amrywiaeth eang o gyfryngau o wneud printiau, gemwaith, tecstilau a serameg, dyma’r lle delfrydol i ddechrau eich siopa Nadolig!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gweithiau gan: Claire Acworth / Botanical Glass / Joanna Clark / Wayne Clark / Ken Cornwell / Elin Vaughan Crowley / Hannah Coates / Lucy Copleston / Deborah Edwards / Glosters Pottery / Ruth Green / Bronwen Gwillim / Ian Thomas Jones / Rebecca Lewis / Anne Morgan / Debbie Nairn / Rebecca Oldfield / Dee Ratcliffe / Lisa Reeve / Claire Paton / Bernadette Siân / Satoko Takemura / Lucy Thompson / Liz Toole / The Whale Creative / Karen Williams. 

Drwy gefnogi artistiaid annibynnol yn ein mannau manwerthu, rydych hefyd yn cyfrannu at ein rhaglen arddangos, gan fod yr holl elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn ein rhaglen.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr