Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Haf o Hwyl: Gwneud Bocsys Nicho

5 Awst 2022

Time: 13:30 - 15:30

Gweithdy plant

Mae Bocsys Nicho yn gysegrfa addurniadol a welir yn aml mewn traddodiadau gwerin Mecsicanaidd sy’n cyfuno cyfryngau lluosog a deunyddiau wedi’u hail-bwrpasu i goffáu anwyliaid neu seintiau. Bydd y gweithdy ar y 5ed o Awst yn gweld y mynychwyr yn gwneud eu bocsys celf gwerin Nicho personol eu hunain yn seiliedig ar rywbeth neu rywun y maent yn cael eu hysbrydoli ganddynt yn eu bywydau eu hunain.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at blant 12-16 oed.

Gall rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr fynychu’r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.


 

Yr haf hwn mae Mostyn wedi partneru â CARN i gyflwyno rhaglen am ddim o weithdai a gweithgareddau dan arweiniad artistiaid dros chwe wythnos o wyliau’r haf.

Wedi’u hanelu at oedrannau 6-11 a 12-16, mae’r gweithdai hyn yn gwahodd pobl ifanc i archwilio deunyddiau a phrosesau newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa gyfredol Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw. Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i bobl ifanc greu gweithiau newydd sy’n defnyddio mapio i archwilio themâu hunaniaeth, ysbrydolrwydd, isymwybod, teimlad a chof.

Mae’r gweithgareddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim yn sgil grant gan Lywodraeth Cymru.

Artist profiles and statements

Anna Higson and Chris Higson

Mae Chris Higson ac Anna Higson yn artistiaid amlgyfrwng. Wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau celf werin y maent wedi dod ar eu traws ym Mecsico a Chymru, eu gwlad enedigol, mae’r artistiaid deuawd yn defnyddio bwyd, paentio, ffotograffiaeth, cerflunwaith a chrefft i ddod o hyd i berthynas rhwng y ddau. Mae’r ddau wedi’u lleoli ym Moduan, ger Pwllheli.

CARN

Mae CARN yn fenter a arweinir gan artistiaid, mae’n agored i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac aelodau o’r gymuned. Rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau, creadigrwydd ac sy’n gallu gweld ei fuddion tuag at les a ffyniant y gymuned.  Mae gan CARN ofod oriel dan arweiniad artistiaid, mae’n cynnal gweithdai cymunedol, sgyrsiau, preswyliadau ac arddangosfeydd a phrosiectau allanol.

 

 

 

Archebu

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr