Gweithdy

Adéọlá Dewis, Ode to Mètèt mwe, 2022. Courtesy of the artist.
Bydd Adéọlá Dewis yn gweithio gyda menywod a mamau trwy sgwrs a gweithdy perfformio i ymgorffori egni dduwies o fewn y cyfranogwyr.
Bydd Mostyn hefyd yn cynnal gweithdy plant am ddim yn y Stiwdio Ddysgu ochr yn ochr â’r digwyddiad i gynnig darpariaeth gofal plant i famau yn ystod y sesiwn.
Artist profiles and statements
Adéọlá Dewis
Mae Adéọlá yn artist ar wasgar, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Yn wreiddiol o Trinidad a Tobago, mae ganddi ddiddordeb mewn perfformiadau diwylliannol defodol, gwerin a chynhenid. Mae ei hymarfer yn cynnwys lluniadu, peintio, perfformio ac ysgrifennu. Mae’n cael ei denu’n arbennig at berfformiadau o drawsnewid (fel Carnifal a dawns fasgiau) yn ogystal â chreu llefydd cysegredig. Mae gwaith Adéọlá fel arfer yn archwilio disgwrs ynghylch hunaniaeth, gwasgariad a defod.



