Arddangosfa
Gan weithio’n bennaf drwy baentio, mae gan Anj Smith ddiddordeb mewn adlewyrchu ar union bosibiliadau a chyfyngiadau’r cyfrwng ei hun.
Mae ei gwaith yn tyrchu i hanes celf sy’n cael ei anwybyddu’n aml iawn, ac mae hynny’n cyfuno â’i phrofiadau byw, i ffurfio’r haenau yn ei gwaith. Drwy archwilio ymylon cynrychiolaeth, mae paentiadau Smith wedi’u rendro’n gywrain ac yn archwilio materion hunaniaeth, erotiaeth, marwolaeth a breuder. O fewn ei gweithiau rhyfeddol o fanwl, defnyddir tirweddau gwyllt, ffigurau amwys, tecstilau, a fflora a ffawna prin ac egsotig, gan wau traddodiadau hynafol ac arwyddion cyfoes gyda’i gilydd yn gosmoleg bersonol.
Gan dynnu ar ffynonellau mor amrywiol â gweithiau Lucas Cranach, a ffasiwn Madam Grès, mae Smith yn plethu traddodiadau hynafol ac arwyddion cyfoes gyda’i gilydd yn gosmoleg bersonol. Mae ei phaentiadau yn gyfoethog o ran manylion, lliw a gwead, gan ddymchwel diffiniadau llym o bortread, tirwedd a bywyd llonydd tra’n caniatáu i elfennau o bob un gydfyw.
Artist profiles and statements
Anj Smith
Anj Smith (born in Kent, England, in 1978) studied at the Slade School of Fine Art and Goldsmiths College in London.
Smith has exhibited internationally in museums and galleries such as the Sara Hildén Art Museum, Tampere, Finland; Museum Morsbroich, Leverkusen, Germany; Fondazione Stelline, Milan, Italy; Museum Arnhem, Arnhem, Netherlands; The Bluecoat, Liverpool, UK; Knoxville Museum of Art, Knoxville TN; Hudson Valley Centre for Contemporary Art, Peekskill NY; Galerie Isa, Mumbai, India; La Maison Rouge, Paris, France, and Me Collector’s Room, Berlin, Germany.
Smith’s work is also displayed in the collections of many leading international museums and collections including the Victoria and Albert Museum, London, UK; MOCA The Museum of Contemporary Art, Los Angeles CA; DRAF David Roberts Art Foundation, London, UK and the Sara Hildén Art Museum, Tampere, Finland.