Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

S Mark Gubb: Y Farn Olaf

16 Mawrth 2019 - 30 Mehefin 2019

Arddangosfa

  • S Mark Gubb, The Last Judgement (detail), 2019. Carved magnesian limestone.

  • S Mark Gubb, The Last Judgement, installation at MOSTYN, Wales UK, 2019. Photo by Jamie Woodley.

Mae’n bleser gennym ni gyflwyno arddangosfa unigol newydd gan S Mark Gubb, artist o Gaerdydd. Mae’r arddangosfa o’r un enw â llun Michelangelo o Gapel Sistin ac mae’r artist wedi defnyddio’r llun hwnnw fel man cychwyn a chyfeiriad. Mae’r arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth o waith cerfluniol newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, a bydd y rheini’n cael eu harddangos fel gosodwaith.

Mae’r arddangosfa’n ychwanegu at dechneg hirsefydlog Gubb o ddefnyddio hanes a diwylliant poblogaidd yn ei waith. Hefyd, mae’n ychwanegu at ei ddiddordeb mewn paranoia hanesyddol sydd wedi’i greu gan bethau fel y Rhyfel Oer, ynghyd â’i ddiddordeb yn ein gallu ni fel unigolion i ddylanwadu ar y byd o’n cwmpas, er gwell neu er gwaeth. Fel rhan o’i ymchwil ar gyfer Y Farn Olaf, ailedrychodd Gubb ar waith clasurol yn hanes celf, fel y gyfres ‘Black Paintings’ gan Goya, gwaith allweddol gan Hieronymous Bosch a gwaith gan Edgar Herbert Thomas, yr artist arbennig o Gymru, sy’n hen hen ewythr i Gubb drwy briodas.

Mae’r arddangosfa hon, ynghyd ag arddangosfa unigol newydd gan yr artist pop Derek Boshier, sydd wedi’i churadu gan S Mark Gubb ac Alfredo Cramerotti, yn rhan o gyfres barhaus MOSTYN, ‘Mewn Sgwrs’. Mae’r gyfres ‘Mewn Sgwrs’ yn dod â dwy arddangosfa unigol at ei gilydd er mwyn cyflwyno’r elfennau sy’n gallu digwydd rhwng artistiaid, fel y sgwrsio, y cydweithio a’r tebygrwydd wrth archwilio themâu.

I gyd-fynd â’r arddangosfa hon ac arddangosfa Derek Boshier, sy’n cael ei dangos ‘Mewn Sgwrs’, bydd catalog cyfun yn cael ei gynhyrchu. Bydd hwn yn cael ei ariannu gan Brifysgol Worcester a bydd yn cynnwys traethawd newydd gan Jonathan Griffin.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr