Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Shezad Dawood: Leviathan

3 Mawrth 2018 - 1 Gorffennaf 2018

Arddangosfa

  • Shezad Dawood Leviathan Cycle, Episode 1: Ben (production still) 2017 HD Video, 12'52''. Courtesy of the artist and UBIK Productions

  • Shezad Dawood, Leviathan, installation view at MOSTYN, Wales UK, 2018.

  • Shezad Dawood, Leviathan, installation view at MOSTYN, Wales UK, 2018.

Mae Leviathan gan Shezad Dawood yn cyflwyno naratif cyfnodol ynghylch syniadau am ffiniau, iechyd meddwl a materion lles morol sy’n peri pryder difrifol, ac sy’n berthnasol iawn i leoliadau arfordirol a bywyd cyfoes.

Mae’r gwaith, sef cyfres o ddeg ffilm a gyflwynir dros y tair blynedd nesaf, yn creu cysylltiadau rhwng gweithgarwch dynol ac ecoleg y môr.
Mae tair ffilm eisoes wedi cael eu dangos am y tro cyntaf yn Fenis, a hynny ar y cyd â 57fed Biennale Celfyddyd Fenis, a disgwylir i’r bedwaredd gael ei rhyddhau yn gynnar ym mis Medi 2018.

Drwy ddeialog ag amrywiaeth eang o fiolegwyr morol, eigionegwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, niwrolegwyr ac arbenigwyr trawma, mae Leviathan yn archwilio’r rhyngysylltiadau rhwng y meysydd gwaith hyn, a bydd yn eu cyflwyno drwy gerfluniau, tecstilau, samplau amgueddfeydd, ffilmiau, sgyrsiau, ac adnoddau ar-lein.

Yn rhan o gylch cyntaf Leviathan, yn dilyn ei ddangosiad yn Fenis, bydd Dawood hefyd yn arddangos paentiad a gomisiynwyd o’r newydd ar y cyd-destun penodol hwn, ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol yn yr ardal arfordirol dan sylw i ofyn cwestiynau am y modd y gallai’r materion hyn ddatblygu ymhen ugain i hanner can mlynedd, a’r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.

Curadur yr arddangosfa yw Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, a hynny mewn trafodaeth â’r artist.

Mwy O Wybodaeth

The Artist’s website

I’ve created a monster! Shezad Dawood on his oceanic epic Leviathan
(The Guardian)

‘Towards the Possible Film’ – Shezad Dawood – 2014 (Vimeo)

Books by Shezad Dawood

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr