Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Steve Farrer: Ten Drawings

8 Hydref 2022 - 25 Chwefror 2023

Arddangosfa

Mae Ten Drawings gan Steve Farrer (1976) yn ddetholiad o ddeg ffilm fer. Ar gyfer pob ffilm, gosodwyd hanner cant o stribedi (45cm) o ffilm glir ochr yn ochr i wneud petryal 45cm wrth 80cm (50 x 16mm). Roedd siâp geometrig yn cael ei dynnu neu ei chwistrellu ar bob petryal, yna cafodd y stribedi o asetad eu huno, gan ddechrau o’r gornel chwith uchaf (y cychwyn) ac uno gwaelod y cyntaf i frig y canlynol ac yn y blaen hyd at y gwaelod cornel dde (y diwedd) i gynhyrchu’r ffilm. Mae’r trac sain yn cael ei greu gan y ddelwedd sy’n cael ei gludo drosodd i’r ardal trac sain optegol.

Gall y marciau arwyneb amlygu eu hunain mewn tair ffordd: llun (lluniad o ffilm); ffilm (ffilm o lun); trac sain (sain llun).

Tynnodd Ten Drawings gyfeiriadau uniongyrchol o luniadu a mecaneg taflunio, gyda’r dangosiad ffilm yn aml yn cyd-fynd â’r stribedi ffilm gwreiddiol. Mae’r ffilm tafluniedig yn gweithredu fel casgliad o ddelweddau haniaethol yn cynnig cywerthedd o arwyneb cyfan llun, gan fodloni bwriad Farrer i “ymdrin â ffilm mewn un strôc; i ddweud, wel – slaes – rydw i wedi delio â dechrau, canol a’r diwedd ar yr un pryd.” Nid yw Ten Drawings yn waith dilyniannol cronolegol a gellir ei ddangos gyda’r stribedi ffilm mewn unrhyw drefn.

Wrth arddangos ffilm a lluniadau yn yr un gofod, cyfosodir natur fyrhoedlog ffilm (y ‘lluniad’ symudol) a’r lluniadu ffisegol, gan greu deialog hynod rhwng corfforoldeb ffilm a bodolaeth fyrhoedlog darluniau wedi’u taflunio ar ffurf dameidiog.

Artist profiles and statements

Steve Farrer

Artist gweledol a gwneuthurwr ffilmiau arbrofol yw Steve Farrer (g.1951, Manceinion). Ar ôl gweithio yn adran ‘dye stuff’ ICI, Manceinion, astudiodd yn North East London Polytechnic a Royal College of Art, Llundain. Ef oedd trefnydd gweithdai Co-op y London Filmmakers a threfnydd sinema ar ddiwedd y 1970au. Yn ddyfeisiwr The Machine, camera/taflunydd ffilm troelli di-gaead, mae llawer o’i osodiadau yn yr un modd yn dibynnu ar dechnoleg wedi’i gwneud â llaw i ddadadeiladu golygfa’r sinema. Mae cyflwyniadau nodedig o’i waith yn cynnwys: ‘…fellow travellers’, Pirelli HangarBicocca, Milan, 2020; Pafiliwn De La Warr, Bexhill, (2016); ‘Film in Space’, wedi’i guradu gan Guy Sherwin, Camden Art Centre, Llundain, 2013; ‘One More Time’, London Metropolitan University, Llundain, 2011; ‘Expanded Cinema’ Tate Modern, Llundain, 2009.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr