Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Stefan Brüggemann: NID DU, NID GWYN, ARIAN

18 Mawrth 2023 - 17 Mehefin 2023

Arddangosfa

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

  • Mostyn Gallery

Mae Stefan Brüggemann (Mecsico, g.1975) yn gweithio ar draws cerfluniau, fideo, peintio a lluniadu, gan gyfuno’r cyfryngau hyn yn aml. Nodweddir ei gorff o waith gan gyfuniad eironig o Gysyniadaeth a Minimaliaeth ag agwedd pync ac esthetig celf stryd. Yn y modd hwn, mae arfer artistig Brüggemann yn eistedd y tu allan I ganon yr artistiaid cysyniadol a oedd yn ymarfer yn y 1960au a’r 1970au, a geisiodd ddad-sylweddoli a gwrthod masnacheiddio celf.

Mae iaith yn ganon hollbwysig yng ngwaith Brüggemann, mae testun yn gweithredu fel cyfrwng hylifol, a ddefnyddir ar gyfer ffurf ac ystyr; mae ei ddewis o eiriau yn aml yn bryfoclyd a hanfodol. Mae chwarae geiriau meistrolgar a thrylwyredd cysyniadol Brüggemann yn cyfuno i greu corff beiddgar a pherthnasol o waith yn canolbwyntio ar themâu neilltuo a dadleoli. Mae ei ddarnau celf yn creu amheuaeth ac yn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried a chymryd safbwynt. Mae’r testun yn dod yn tymhorol ac yn gydweithredol, mae’r gweithiau yn yr arddangosfa yn arsylwadau i’w cwblhau trwy ymgysylltu â’r gwyliwr.

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, Mostyn a Kalliopi Tsipni-Kolaza, Curadur Cyswllt Celf Weledol, Mostyn, gyda chefnogaeth Hauser & Wirth.



Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr