Digwyddiad
Dydd Iau Rhagfyr 1af, dydd Iau Rhagfyr 8fed
4.00yp – 8.00yh
Dewch i weld arddangosfa Cerith Wyn Evans …)( mewn golau newydd y Nadolig yma.Byddwn yn agor yn hwyr ar y nosweithiau Iau yma er mwyn i chi fwynhau’r arddangosfa drawiadol hon gyda’r hwyr a gwneud ychydig o siopa Nadolig, i gyd gyda cherddoriaeth fyw leol fel rhan o Gigs Y Gaeaf Llandudno.
Porwch yn ein Siop a’n ffair Nadolig dros dro am anrhegion hardd artisan neu wedi’u gwneud â llaw, addurniadau, cardiau a phapur lapio yn ogystal â phrintiau, cerameg a llestri gwydr o’n harddangosfa “Gwreiddiau yng Nghymru”.
Bydd ein caffi ar agor ar gyfer byrbrydau a diodydd ysgafn drwy’r nos, gan gynnwys rhai eitemau arbennig tymhorol.
Ymunwch â’n gweithdai creadigol rhad ac am ddim i wneud eich addurniadau Nadolig eich hun, o 4.00 – 5.30yh ar bob dyddiad. Nid oes angen archebu lle, ac mae’r gweithdai hyn yn addas ar gyfer pob oedran a phob gallu, dewch draw i fwynhau!
Dydd Iau 1 Rhagfyr – Cerddoriaeth Fyw gan ‘Hap a Damwain’
Hap yw Simon Beech sy’n chwarae’r gitâr / electroneg / cyfrifiadur, Damwain, Aled Roberts sy’n darparu’r geiriau ac yn canu. Mae’r ddeuawd wedi bod yn ffrindiau ers dyddiau ysgol yn Ysgol Y Creuddyn ac wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, Hap a Damwain yw’r diweddaraf.
Mae’r caneuon Cymraeg yn gymysgedd o faledi arbrofol, blŵs a roc a llawer o bethau rhyngddynt. Disgrifiodd rhywun mewn gig diweddar swn Hap a Damwain fel croes rhwng ‘Steely Dan’ a ‘Sleaford Mods’, felly fe gymerwn ni hwnnw fel disgrifiad!
https://hapadamwain.bandcamp.com/
https://twitter.com/hapadamwain
Dydd Iau 8 Rhagfyr – Jazz Byw gan The Quaynotes
Mae The Quaynotes Quintet yn grŵp lleol gyda naws jazz / swing gyda lleisiau a sacsoffon ar flaen y gad, yn chwarae alawon clasurol o ‘The Great American Songbook’ a chaneuon poblogaidd eraill o’r 50 mlynedd diwethaf.
Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan www.quaynotes.com.