Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Taith dywys – Archwilio’r Gogarth (i bob oedran)

13 Mai 2023

Time: 11.30yb - 15.30yp

Digwyddiad

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim gyda’r arbenigwr awyr agored a’r addysgwr Jim Langley.

Mwynhewch bŵer adferol natur a golygfeydd arfordirol y Gogarth. Dysgwch a darganfyddwch y bywyd gwyllt lleol, cewch gipolwg ar ddaeareg a thirwedd yr ardal yn y daith gerdded dywys hon.

Bydd llyfrau braslunio ar gael ar y daith dywys. Sylwch fod y daith gerdded hon yn serth mewn rhai mannau ac rydym yn argymell esgidiau da, dillad addas a phecyn bwyd.

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sylwch y gallai fod ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd igael tynnu eich llun ar y diwrnod.

Artist profiles and statements

Jim Langley

Jim Langley yw cyfarwyddwr Nature’s Work, ymgynghoriaeth addysgol sy’n darparu teithiau cerdded tywys a chyrsiau sgiliau i unigolion a grwpiau. Mae Jim wedi ennill gwobr Arweinydd Mynydd Rhyngwladol ac mae ganddo MSc mewn cadwraeth a rheoli tir o Brifysgol Bangor. Mae wedi bod yn ymwneud ag addysg awyr agored trwy gydol ei yrfa ac wedi datblygu cyfoeth eang o brofiad yn arwain grwpiau nid yn unig ym myd natur a’r amgylchedd ond hefyd fel arweinydd mynyddoedd ac alldeithiau.

Book

Event information

Cost: Am Ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr