Gweithdy plant
Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus am ddim gyda’r artist tecstilau Ffion Evans. Archwiliwch, chwaraewch, cyffyrddwch wrth greu eich anghenfil bach synhwyraidd eich hun. Dyluniwch eich anghenfil bach tecstilau i helpu gyda phryderon dyddiol a dod â chysur trwy ddeunyddiau a lliwiau synhwyraidd o’ch dewis.
Wedi’i anelu at gyfranogwyr 6 oed a hŷn. Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sylwch y gallai fod ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd i gael tynnu eich llun ar y diwrnod.
Artist profiles and statements
Ffion Evans
Mae Ffion Evans yn archwilio elfennau o chwarae a chyffyrddiad i ddod ag eiliadau o lawenydd a chwilfrydedd i bobl trwy ryngweithio. Mae’r synhwyrau, seicoleg a’n perthynas â gwrthrychau yn llywio ei hymarfer.
Mae ffidlan a gwingo yn elfennau pwysig o’i gwaith gan eu bod yn ymwneud â momentau o bryder, ond fel gweithgareddau chwareus sydd hefyd yn gallu cysuro, tawelu ac ysgogi. Drwy gynllunio’n fwriadolgyfleoedd i gyffwrdd ac archwilio, gall hyn ddatblygu momentau difyr a chwareus i bobl.