Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Sgwrs – Oriel Machno: stori’r (hyd yn hyn) gofod prosiect cymunedol gwledig

16 Mehefin 2023

Time: 3:00pm-4:00pm

Siarad

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyhoeddus am ddim gyda’r artist Kristin Luke.
Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar siwrnai a phosibiliadau gofod prosiect cymunedol gwledig, Oriel Machno, ym Mhenmachno. Ar un adeg yn siop, ac yna’n ystafell dywyll ffotograffiaeth, mae wedi’i thrawsnewid yn ofod cymunedol gyda rhaglenni o weithgareddau ac arddangosfeydd yn cael eu gyrru gan y gymuned ym Mhenmachno. Mae’n enghraifft o sut y gall gwaith creadigol cydweithredol rymuso cymunedau a chryfhau hunaniaethau a rennir.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Isdyfiant a ariennir yn garedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sylwch efallai y bydd ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad hwn, gallwch roi neu wrthod caniatâd i dynnu llun ar y diwrnod.

Artist profiles and statements

Kristin Luke

Mae Kristin Luke yn artist sy’n gweithio ar draws ffilm, gosodiadau a phrosiectau cyfranogol. Yn ddiweddar mae hi wedi agor Oriel Machno, oriel gymunedol wledig ym Mhenmachno, Gogledd Cymru. Mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau sydd wedi cael eu harddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys prosiect sy’n cael ei redeg ar y cyd, y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol, a gafodd ei arddangos ym Mostyn yn 2021.

Mae Kristin Luke (ganwyd ym 1984 yn Los Angeles, California, UDA ac sydd wedi’i lleoli ym Mhenmachno, Eryri, Cymru) yn gweithio ar draws ffilmiau, cerflunwaith a phrosiectau cyfranogol. Ers 2018 mae hi wedi cyd-redeg y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol. Mae hi ar hyn o bryd yn gynghorydd artist ar brosiect Ymchwil a Datblygu Dyffryn Dyfodol. Yn ddiweddar mae hi wedi agor Oriel Machno, oriel gymunedol wledig yng Ngogledd Cymru. Rhwng 2019 a 2020 roedd Luke yn artist preswyl ar gyfer The Wall Is _____, cydweithrediad ag ystâd dai yng Ngogledd Cymru ynghylch wal derfyn, a gefnogwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn. Rhwng 2017 a 2018 roedd yn aelod o grŵp golygyddol Schooling & Culture, cyfnodolyn ar addysg radical a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â MayDay Rooms a The Showroom. Yn 2015–16 roedd hi’n Gydymaith Open School East. Mae ei gwaith a’i phrosiectau wedi cael eu harddangos mewn orielau gan gynnwys The Showroom (Llundain); Forum Box (Helsinki); MOSTYN (Llandudno, Gogledd Cymru); Pafiliwn De La Warr (Bexhill-on-Sea); South London Gallery; Arnolfini (Bryste); Somerset House (Llundain); Enclave (Llundain); AND/OR (Llundain); Bas Fischer Invitational (Miami); Jerwood Arts (Llundain).

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Kristin Luke ac instagram: @kristinjluke

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr