Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Taith arddangos: Noemie Goudal

27 Awst 2024

Time: 11:00am

Taith arddangos

Ymunwch â’n Cyfarwyddwr Dros Dro, Clare Harding am daith anffurfiol o amgylch Cyfuchliniau Sicrwydd gan Noemie Goudal. Gan ystyried hanes y genre o dirwedd, byddwn yn archwilio’r lensys y mae Noemie Goudal wedi’u defnyddio i ddarlunio ei bydoedd adeiledig, a sut mae’n defnyddio amheuaeth fel gofod i archwilio hanes y Ddaear a’i phosibiliadau i’r dyfodol.

Bydd y sgwrs yn cynnwys mewnwelediad i sut y cafodd y gweithiau a arddangoswyd eu gwneud a sut y datblygwyd a llwyfannwyd yr arddangosfa hon. Bydd croeso cynnes i gwestiynau a thrafodaeth ar themâu’r sioe.

Mae’r sgwrs hon yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr arddangosfeydd, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth gelf flaenorol arnoch. Mae croeso i bawb, ac mae stolion ar gael i unrhyw un a hoffai eistedd wrth ymuno.

Book

Event information

Cost: Free

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr