Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Printiau risograffau: Blodau Gwylltion ac Ecoleg

17 Awst 2024

Time: 11:00 - 16:00

Gweithdy

Fel rhan o’n prosiect Isdyfiant, ac mewn cydweithrediad â Kristin Luke – sy’n arddangos ‘Siop Mwynglawdd Taflen Blodyn Penglog’ ar hyn o bryd ym Mostyn, rydym yn cynnal y gweithdy risograff hwn! Bydd cyfranogwyr yn archwilio defnyddiau, hanes, a safbwyntiau ecolegol ar flodau gwyllt, dan arweiniad Andy Houghton, arbenigwr blodau gwyllt, a fydd yn cyflwyno sgwrs ac arddangosfa ryngweithiol ar flodau gwyllt. Yna bydd cyfranogwyr yn creu printiau gan ddefnyddio sbesimenau planhigion wedi’u sganio, testunau, ac ati, i greu eu printiau A4 eu hunain ar y thema hon. Bydd printiau wedyn yn cael eu hymgorffori yng nghyhoeddiad yr arddangosfa a gall cyfranogwyr hefyd fynd â’u copïau eu hunain adref.

Digwyddiad grŵp yw hwn a gynhelir mewn gofod ar lefel y ddaear, gyda chyfleusterau hygyrch. Am gwestiynau am lety mynediad neu unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 879201

Mae’r digwyddiad yma yn rhan o prosiect ‘Isdyfiant’ sydd wedi ei ariannu gan ‘Shared Prosperity Funding’.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr