Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

CLWB CELF: Paentio Tecstilau

17 Gorffennaf 2022

Time: 10:30-12:00 & 14:00-15:30

Ymunwch â ni am ein CLWB CELF reolaidd lle gall ein hymwelwyr ieuengaf archwilio eu creadigrwydd a chael eu hysbrydoli gan ein harddangosfeydd.

Y tymor yma fydd y cyfranogwyr yn edrych ar themâu mapio’r hunan a hunaniaeth trwy archwilio deunyddiau sydd wedi cael eu defnyddio gan dri artist o’r arddangosfa.

Fydd y cyfranogwyr yn creu paentiadau ar decstilau patrymog i greu gwaith celf eu hunain wedi cael eu hysbrydoli gan waith cwilt Sanford Bigger.

Wedi’i anelu tuag at gyfranogwyr rhwng yr oedran o 6-11. Gall rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr fynychu’r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad cyfreithiol.

Mae’r gweithdy 10:30 yn Sesiwn Dawel wedi cael ei ddylunio ar gyfer plant gydag anghenion ychwanegol, neu blant sy’n well ganddynt weithio mewn lle mwy tawel. Bydd gan bob plentyn bwrdd gwaith eu hunain yn y Stiwdio Ddysgu i fod yn greadigol!

Gwybodaeth Diogelwch COVID-19 ar gyfer Cyfranogwyr Gweithdai, Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr, Sefydliadau Addysgol a Grwpiau Addysgol ar gyfer Ymweliadau ag Oriel MOSTYN.

Dyluniwyd y protocolau a’r gweithdrefnau arfer da i sicrhau diogelwch a lles unrhyw grwpiau sy’n ymweld.

  1. Os ydych chi’n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 peidiwch â mynychu’r gweithdy. Cewch eich ad-dalu os na allwch ddod oherwydd symptomau.
  2. Fydd deunyddiau glan yn cael eu defnyddio ym mhob gweithdy i atal traws-halogiad.
  3. Cyn ac ar ôl pob gweithdy bydd y Stiwdio Dysgu yn cael ei glanhau’n drylwyr.
  4. Disgwylir i bob ymwelydd defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael, gan osgoi ysgwyd llaw a chyswllt corfforol, a.y.b.
  5. Nid yw orchuddion hwyneb yn ofynnol i ymwelwyr, ond rydym yn cynghori bod pobl dal i’w wisgo yn enwedig o fewn pellter o 2-fetr oddi wrth ei gilydd.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.

 

Archebu

Event information

Cost: £6.00

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr