Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Tarek Lakhrissi: Fy Anfarwol

3 Gorffennaf 2021 - 19 Medi 2021

Arddangosfa

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi, To kiss your head, 2021. Engraved Aluminium. Courtesy the artist and VITRINE London/Basel. My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi, Fusion, 2021. Engraved Aluminium. Courtesy the artist and VITRINE London/Basel. My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi, Whisper Secrets, 2021. Engraved Aluminium. Courtesy the artist and VITRINE London/Basel. My Immortal, installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal [detail], installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

  • Tarek Lakhrissi: My Immortal [detail], installation view at MOSTYN, 2021. Photograph by Mark Blower.

Fy Anfarwol yw’r arddangosfa gyntaf o waith Tarek Lakhrissi ar ei ben ei hun mewn sefydliad yn y DU. Mae’r gweithiau newydd a gomisiynwyd yn cynnwys rhai blaenorol a newydd ar ffurf ffilm, cerflunwaith a thestun, wedi’u cyflwyno fel gosodwaith drwy ystafelloedd yr oriel. Mae gwaith Lakhrissi wedi’i seilio ar farddoniaeth ac yn ceisio herio lluniadau cyfoes o iaith a naratif sy’n ymwneud â chymunedau lleiafrifol.

Gan gymryd yn deitl y gân My Immortal o 2003 gan y grŵp pop Americanaidd Evanescence, mae’r arddangosfa yn myfyrio ar y syniad o gymuned, yn enwedig cymuned queer sy’n cael ei gweld yn endid cymhleth, bregus a byrhoedlog. Ar y naill law, gall gynnig y posibilrwydd o gariad, grymuso ac amddiffyniad ac, ar y llaw arall, gall godi hunllefau ac ofnau. Mae cerdd y bardd Saesneg o’r 17 ganrif John Milton ‘Coll Gwynfa’ yn enghraifft o’r gwrthdynnu sy’n cael ei bortreadu yn yr arddangosfa: er bod y posibilrwydd o gymuned yn cynnig cysur paradwysaidd, gellir ei cholli’n rhwydd hefyd oherwydd ei natur fregus.

Ar ddechrau’r arddangosfa mae’r ffilm The Art of Losing (2021) yn dangos dau ffigwr yn cofleidio ei gilydd yn gariadus, gan agor y drws at weddill y gosodwaith. Mae placiau metel adlewyrchol, pob un wedi’i arysgrifio â cherddi newydd am ddyhead, colled a mytholegau personol a ysgrifennwyd gan Lakhrissi. Mae parhauster y cyfrwng metelaidd yn gwrthgyferbynnu â natur fregus a byrhoedlog y cariad cymunol sy’n destun i’r gweithiau eu hunain.

Mae’r gwrthdynnu hwn wedi’i ddwysáu gan ddau waith newydd a gosodwaith a oedd eisoes wedi’i lunio sydd wedi’u cyflwyno fel eu bod yn ymateb i’w gilydd yn y ddau ofod olaf yn yr oriel. Mae’r cyntaf, cerflun newydd ar ffurf dwy adain angel metelaidd, Gay Wing I a Gay Wing II (2021) yn talu teyrnged i’r myth Groegaidd am Icarws a fu farw ar ôl syrthio i’r ddaear pan doddodd ei adenydd wrth nesáu at yr haul.

Mae’r ‘anghofeb’ hon yn sefyll o flaen gosodwaith a oedd wedi’i lunio eisoes, Unfinished Sentence (2019). Mae gwaywffyn metelaidd sydd wedi’u gwasgaru dros nenfwd yr oriel yn ffurfio cytser cosmig sy’n cyfeirio at nofel arloesol y llenor a gweithredydd ffeministaidd o Ffrainc Monique Wittig Les Guérillères (1969), sy’n disgrifio byddin o ryfelwragedd sy’n codi mewn gwrthryfel yn erbyn dynion. Mae’r gweithiau metelaidd yn sefyll mewn môr o olau porffor sy’n cyfeirio at y mudiad ffeministaidd milwriaethus yr oedd Wittig yn rhan ohono yn ogystal â Lavender Menace, cydweithfa ffeministaidd lesbiaidd a sefydlwyd yn Efrog Newydd yn y 1970au. Cyflwynir y ffigyrau llenyddol a ffeministaidd milwriaethus hanesyddol hyn fel eu bod yn ymateb i ddiwylliant poblogaidd cyfoes drwy waith sain sy’n treiddio drwy ofod yr oriel. Cyfansoddwyd y gwaith sain hwn gan yr artist a’r cydweithiwr agos Ndayé Kouagou, mae’r darn sain yn benthyca o arwyddganeuon cyfresi teledu o’r 90au Buffy the Vampire Slayer a Xena: Warrior Princess i ffurfio tirwedd sain sy’n haniaethol, yn fygythiol ac yn fyfyrgar. Mae’r arddangosfa’n troi’n faes y gad, yn drosiad o syniadau am amddiffyn a hunanamddiffyn ac felly’n symbol o gariad a naratifau trawsffurfiol.

Felly yng nghanol anobaith, rydw i wedi dod i gredu mai cariad – y teimlad o gariad, gwleidyddiaeth cariad, moeseg ac ideoleg cariad a’r ymgorfforiad ohono – yw’r unig ddewis da yn y cyfnod apocalyptaidd hwn.
Kai Cheng Thom – I Hope We Choose Love: A Trans Girl’s Notes from the End of the World

Mae Tarek Lakhrissi yn siarad am Fy Anfarwol:

Artist profiles and statements

Tarek Lakhrissi

Mae Tarek Lakhrissi yn fardd ac yn artist gweledol sydd wedi ymsefydlu ym Mharis (Ffrainc) a Brwsel (Gwlad Belg). Mae’n addysgu ar hyn o bryd yn Rhaglen Meistr Ymchwil CCC yn Adran y Celfyddydau Gweledol yn HEAD (Ysgol Celf a Dylunio Genefa). Arddangoswyd gwaith Lakhrissi mewn orielau a sefydliadau mewn sawl gwlad, yn cynnwys: Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Biennale Sydney (2020); Wiels, Brwsel (2020); Palais de Tokyo, Paris (2020); Palazzo Re Rebaudengo/Sandretto, Guarene/Torino (2020); Quadriennale di Roma, Palazzo delle Esposizioni, Rhufain (2020); High Art, Paris (2020); Oriel Hayward, Llundain (2019); Auto Italia South East, Llundain (2019); Grand Palais, FIAC, Paris (2019); Fondation Lafayette Anticipations, Paris (2019); L’Espace Arlaud, Lausanne (2019); Zabriskie, Genefa (2019); Fondation Gulbenkian, Paris (2018); CRAC Alsace, Altkirch, Ffrainc (2019); Kim?, Riga (2018); Artexte, Montreal (2017); Gaité Lyrique, Paris (2017); SMC/CAC, Vilnius (2017). Mae’n cael ei gynrychioli gan Oriel VITRINE (Llundain – Basel) ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer am 22ain Wobr Fondation Pernod Ricard (2020-2021).

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr