Mae’r rhaglen dysgu yn cynnig cyfleoedd creadigol i’n cymunedau ar bob adeg o fywyd, o weithdai i deuluoedd a phlant, sgyrsiau, teithiau ac adnoddau addysgol.
Rhan annatod o’n rhaglen yw dod â chelf a chymunedau ynghyd trwy ein harddangosfeydd a’n prosiectau cymdeithasol. Trwy ddarparu cyfleoedd i gyfranogi a chydweithio, nod ein prosiectau yw gwella mynediad i gelf gyfoes a chreu gofod i Mostyn a’n cymunedau ddysgu oddi wrth ein gilydd.
I ddarganfod mwy am raglenni dysgu Mostyn cysylltwch â’r Tîm Dysgu: [email protected]
Dysgu digwyddiadau
-
Gwneud Synnwyr: Dwylo Bach – sesiynau chwarae creadigol a synhwyraidd
20 Chwefror 2026 10:30 - 12:00
-
Beirdd Ifanc Llandudno & Mostyn: Gweithdy risograff a barddoniaeth
21 Chwefror 2026 10:30 - 16:30
-
Gweithdy argraffu risograff: Celfyddydau Anabledd Cymru
3 Mawrth 2026 10:30 - 16:30





