Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Ar y Gweill: In Progress

14 Mawrth 2026 - 20 Mehefin 2026

Arddangosfa

Bydd y dylunydd graffig Anna Farrall yn cyflwyno ymchwil ynghyd â chyhoeddiad a chyfres o weithdai. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arddangos fel Ar y Gweill: In Progress yng Ngofod Dysgu ac Addysg Mostyn o 14–28 Mawrth 2026. Ar ôl y cau ar 28 Mawrth, bydd llinyn dethol o’r ymchwil yn cael ei ailgyflunio a’i gyflwyno yn Oriel 6.

Daeth Mesur y Gymraeg 2011 yn weithredol yn 2016. Mae mwy na degawd wedi pasio ers i’r Canllaw Cefnogi Dylunio Dwyieithog gael ei ysgrifennu. Yn yr amser hynny mae ymarferwyr creadigol ledled Cymru wedi cynhyrchu gwaith dwyieithog sy’n llawer mwy pellgyrhaeddol na’r fframweithiau swyddogol: gan archwilio hierarchiaethau, semioteg, a dathlu hunaniaeth a diwylliant.

Mae Anna wedi cydweithio gyda bron i ugain o ymarferwyr creadigol drwy gyfrwng cyfweliadau a mentora. Mae sgwennwyr, cyfieithwyr, dylunwyr, artistiaid ac academyddion ymhlith y sawl sydd wedi cydweithio ar y project hwn ac wedi llunio tirlun a hanes ieithyddol Cymru. Mae Anna hefyd wedi gweithio’n agos gyda myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo, gan ymgysylltu mewn gweithdai, a phrofiad gwaith.

Mae’r project yn annog cyfleoedd i allu cyfnewid, cydweithio a myfyrio: gan ymgysylltu’n weithredol gyda’r cyhoedd ac ymarferwyr creadigol wrth rannu gwybodaeth, cydweithio, a meithrin talent newydd.

Dyma broject ymchwil ymarferol sy’n ystyried cyfathrebu gweledol Cymraeg ei hiaith, a dylunio dwyieithog yng Nghymru. Caiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Gelf Conwy.

Editing: Salonee Gadgil-Wilson
Cymraeg: Esyllt Angharad Lewis

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr