Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Artes Mundi 11

25 Hydref 2025 - 22 Chwefror 2026

Arddangosfa

Antonio Paucar, Viaje en una Alfombra Alada, 2015–2023, video still. Courtesy of the artist and Galerie Barbara Thumm.

Artes Mundi 11 (AM11), gyda’r Partner Cyflwyno: Am yr eildro, bydd Sefydliad Bagri yn cael ei gyflwyno ledled Cymru mewn pum lleoliad cenedlaethol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter yng Nghaerdydd; Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, a Mostyn yn Llandudno, gan ddarparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol gael blas ar y sioe. Bydd arddangosfa AM11 yn cynnwys cyflwyniadau unigol sylweddol o waith newydd a chyfredol chwech o artistiaid cyfoes rhyngwladol pwysicaf y byd.

Bydd yr holl artistiaid yn cael eu cynrychioli mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan weithredu fel canolbwynt sy’n cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau amgueddfeydd mawr sy’n siarad â chraidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu i ddeialog thematig gael ei datgelu rhwng pob artist, wedi’i gwreiddio mewn hanesion personol a straeon sy’n archwilio materion colled, cof a mudo gyda thrawma a chost amgylcheddol dilynol. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol manwl ledled y wlad:

  • Bydd arddangosfa Jumana Emil Abboud (a aned yn Shefa’amer, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain, y DU a Jerwsalem) ym Mostyn, Llandudno.
  • Bydd arddangosfa Anaana Haloba (a aned yn Livingstone, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Oslo, Norwy a Livingstone, Sambia) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
  • Bydd arddangosfa Kameelah Janan Rasheed (a aned yn East Palo Alto, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Brooklyn, Efrog Newydd, UDA) yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.
  • Bydd arddangosfa Sancintya Mohini Simpson (a aned yn Brisbane, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Brisbane, Awstralia) yn Chapter, Caerdydd.
  • Bydd arddangosfa Antonio Paucar (a aned yn Huancayo, ac sy’n byw ac yn gweithio rhwng Berlin, yr Almaen a Huancayo, Periw) ym Mostyn, Llandudno.
  • Bydd arddangosfa Sawangwongse Yawnghwe (a aned yn Shan State Burma, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Amsterdam, yr Iseldiroedd) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Y beirniaid ar gyfer Gwobr Artes Mundi 11 yw Marie Helene Pereira, Uwch Guradur Arferion Perfformio, Haus der Kulturen der Welt, Berlin; Sohrab Mohebbi, Cyfarwyddwr, SculptureCenter, Efrog Newydd; a Zoe Butt, Cyfarwyddwr/Sefydlydd in-tangible institute, Gwlad Thai, Prif Gynghorydd (De Ddwyrain Asia ac Ynysoedd y De), Sefydliad Celf Kadist, Paris/San Francisco a Chynghorydd Academaidd, Amgueddfa TIMES, Guangzhou.

Mae Artes Mundi yn derbyn nawdd amlflwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Sefydliad Bagri yw ein Partner Cyflwyno ar gyfer AM11.

Artist profiles and statements

Antonio Paucar

Mae Antonio Paucar yn creu iaith artistig sy’n atgyfnerthu ei wreiddiau mewn diwylliant Andeaidd drwy ddefodau ac ymyriadau yn ei berfformiadau, ei gerfluniau a’i waith fideo. Mae deialog gyda gwybodaeth am hynafiaid brodorol yn aml yn cael ei gosod mewn tensiwn critigol â diwylliant y Gorllewin i fynd i’r afael â materion fel gwrthdaro cyfoes, llofruddiaeth arweinwyr brodorol a newid yn yr hinsawdd. Wrth wraidd ymarfer Antonio Paucar mae ei berfformiadau barddonol a theimladwy lle mae’n creu corff dwys o ddarlleniadau. Mae gweithredoedd a symudiadau crynodedig mewn mannau cyhoeddus naturiol a threfol yn creu bydoedd dychmygol dwys, llawn darlleniadau symbolaidd.

Jumana Emil Abboud

Nod ymarfer Jumana Emil Abboud yw datgloi cysylltiadau rhwng pobl, drwy archwilio hanesion llafar mewn perthynas â thirwedd fel safleoedd cofio a dychmygu, er gwaethaf cyd-destunau gwleidyddol sy’n aml yn gwrthdaro. Ers 2020, mae hyn yn canolbwyntio ar gorff cynyddol o waith sydd wedi’i wreiddio mewn cynhyrchiad dewinio am ddŵr cydweithredol a gweithdai cymunedol. Defnyddir perfformiad llafar, arlunio, cerflunio a fideo i fynd i’r afael â sut mae ffynonellau dŵr yn fannau trothwyol byd-eang. Maen nhw’n gyforiog o lên gwerin a chysylltiadau â’r goruwchnaturiol, ac yn goroesi newidiadau cyfoes mewn defnyddio, meddiannu a dadfeddiannu tir, a bywyd cymunedol.  Mae mythau a straeon yn cael eu defnyddio i ddathlu treftadaeth leol a threftadaeth a rennir ac i nodi cysylltiadau rhwng pobl.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr