Gweithdy

Rhowch gynnig ar archwilio gwneud marciau’n greadigol gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, dan arweiniad Cynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi, Billie Ingram Sofokleous. Dewch i ddarganfod gwaith celf Antonio Paucar a chreu eich lluniadau eich hun sy’n cynnwys symudiad ac ystum i ymateb i hunaniaeth, a lle.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer teuluoedd, rydym yn eich annog i feddwl am ‘deulu’ yn yr ystyr ehangaf – dewch â’ch teulu, ffrindiau, cymdogion ac unrhyw un y credwch y byddai’n mwynhau arbrofi a chwarae gyda deunyddiau o’ch dewis gyda chi.
Am ddim – mae angen archebu. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a’i hebrwng gan oedolyn. Archebwch docyn i bob aelod o’r grŵp fynychu, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



