Gweithdy

Artes Mundi 11: Jumana Emil Abboud, installation view at Mostyn, 2025. Photo: Rob Battersby.
Lluniwch, peiniwch a chreuwch golagwaith yn greadigol gan ymateb i’r hyn sy’n arbennig yn ein cynefin.
Dewch â’r teulu cyfan draw a mynegiwch eich hun yn y gweithdy creadigol hwn, dan arweiniad Cynhyrchwyr Ymgysylltu Artes Mundi, Billie Ingram Sofokleous a Katie Ellidge. Wedi’u hysbrydoli gan y ffyrdd y mae Antonio Paucar a Jumana Emil Abboud yn ymateb i le a chymuned yn eu mamwlad ac yn Llandudno, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gyfrannu at luniad cydweithredol ar raddfa fawr mewn amrywiaeth o gyfryngau ac arddulliau.
Am ddim! Darperir yr holl ddeunyddiau.
Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a bod yng nghwmni oedolyn.
Nid oes angen tocyn arnoch ar gyfer y digwyddiad hwn, galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11:00 – 15:00
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected]



