Siarad

Artes Mundi 11: Antonio Paucar, installation view at Mostyn, 2025. Photo: Rob Battersby.
Mae Artes Mundi yn partneru â rhwydwaith Ein Byd Gweledol i gyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o gyflwyniad Artes Mundi 11 ym Mostyn dan arweiniad tywysydd artistiaid Byddar proffesiynol, Emily Rose.
Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar ddangos, ei gyd-destun o fewn arddangosfa ehangach AM11 a chipolwg ar ymarfer a chefndir yr Artistiaid. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]



