Siarad

Artes Mundi 11: Jumana Emil Abboud, installation view at Mostyn, 2025. Photo: Rob Battersby.
Ymunwch â Chynhyrchwyr Ymgysylltu Artes Mundi 11, Billie Ingram Sofokleous a Katie Ellidge, ar y daith ddisgrifiad sain arbennig hon o weithiau celf Antonio Paucar a Jumana Emil Abboud sydd ar ddangos ym Mostyn.
Mae’r arddangosfa’n rhan o Artes Mundi 11, prif arddangosfa ddwyflynyddol y DU o gelf gyfoes ryngwladol. Bydd y daith hon, a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer yr artist ac yn darparu delwedd feddyliol bwerus a fydd yn goleuo’r gwaith a’r syniadau sydd ynddi.
Croesewir cŵn tywys. Rydym yn eich cynghori i ddod â thywysydd neu gydymaith sy’n gallu gweld gyda chi. Bydd gennym nifer gyfyngedig o staff ar gael i gynorthwyo ar y diwrnod.
Bydd y daith yn cychwyn ar lawr gwaelod Mostyn yn Oriel 1. Bydd lefelau golau a sain yn yr orielau yn cael eu haddasu yn unol â hynny. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys lluniadau, paentiadau, fideo a gosodiadau cerfluniol.
Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]
Noder, os ydych chi am ddod â thywysydd neu gydymaith sy’n gallu gweld gyda chi, archebwch docyn ar gyfer pob mynychwr.



