Gweithdy

This event has been cancelled!
Dysgwch gelfyddyd batik cyfoes yn y gweithdy hyfryd hwn sydd wedi’i ysbrydoli gan waith Vanessa da Silva.
Ymunwch â Celia Hume, artist batik cyfoes a dysgwch sut i greu eich portread batik eich hun. Arbrofwch gyda haenau a siâp i greu delwedd sy’n adleisio’r portreadau o da Silva.
Bydd Celia yn dysgu hanfodion peintio batik i chi (gan ddefnyddio lliwiau procion ar ffabrig cotwm gyda tjantings) ac yn eich helpu i greu portread cyfoes syfrdanol a all fod mor gynnil a bregus, neu mor feiddgar a llachar ag y dymunwch. Chwarae gyda lliw a siâp a dathlu popeth mae’n ei olygu i fod yn greadigol.
Tyfodd Celia i fyny yn Swydd Amwythig ac mae wastad wedi bod wrth ei bodd yn peintio a lliwio, wedi’i hysbrydoli gan y tirweddau a’r natur o’i chwmpas. Aeth ymlaen i astudio hanes celf gyda chelfyddyd gain ac yna cwblhaodd ail radd mewn celf weledol a dylunio tra’n astudio ym Manceinion.
Ar ôl cwblhau ei hail radd (yn arbenigo mewn Darlunio) aeth ymlaen i ddarlunio cloriau llyfrau a chylchgronau. Yn ystod y cyfnod cloi, arbrofodd â thechnegau batik a chanfod ei fod yn gyfrwng hynod ddiddorol gyda phosibiliadau diddiwedd. Datblygodd ei harddull unigryw, cyfoes ei hun, gan ganolbwyntio ar bortreadaeth.
Mae ei phortreadau wedi cael eu harddangos mewn arddangosfeydd gan Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr Portreadau, Cymdeithas yr Artistiaid Merched, yr Academi Frenhinol Gymreig ac INGDiscerning Eye.
Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at oedolion ac mae’n addas ar gyfer oedrannau 16+, oherwydd natur boeth y cwyr. Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]