Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

DARCH: Heaven in the Ground

11 Gorffennaf 2026 - 3 Hydref 2026

Arddangosfa

DARCH, Heaven in the Ground, 2025. Liverpool Biennial 2025 at FACT.

DARCH yw’r ymarfer cydweithredol rhwng yr artistiaid Umulkhayr Mohamed a Radha Patel. Mae eu gwaith yn chwilio am ffyrdd creadigol o fynegi arferion gofal-ganolog ar gyfer pobl o liw, gyda dull sy’n seiliedig ar undod a rhyddhad.

Mae Heaven in the Ground yn waith sain a gosodiad sy’n adrodd hanes y ddaear o dan ein traed, a’r graigwely fel cysylltydd gwych sy’n dal pob hanes (cynhanesyddol, trefedigaethol, personol) yn ogystal â dyfodol posibl. Mae’r gwaith yn archwilio cysyniadau ôl-fywyd, y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth, a’r angen i gydnabod llafur rhywogaethau eraill. Mae DARCH yn gofyn inni ystyried y pridd, a’r creigwely sy’n ei ddal i fyny, fel gofod sy’n cael ei rannu’n gyfartal ymhlith pob rhywogaeth – planhigion, anifeiliaid a’n hynafiaid, dynol a mwy na dynol – ac un y gallwn ni ar y cyd ddod â byd mwy tyner a thrugarog i fodolaeth drwyddo. Ar gyfer tymor haf Mostyn, mae DARCH yn datblygu ailadrodd newydd o Heaven in the Ground, wedi’i greu fel prosiect safle-benodol ar gyfer Cymru.

Yn wreiddiol, cafodd Heaven in the Ground ei gyd-gomisiynu ar gyfer Liverpool Biennial 2025, BEDROCK, gan At The Library/Rule of Threes Arts a Liverpool Biennial, gyda chefnogaeth hael gan FACT Lerpwl.



Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr