Gweithdy

Ymunwch â ni unrhyw bryd rhwng 11yb – 3yp ar gyfer y gweithdy galw heibio hwn a rhoi cynnig ar y dechneg o boglynnu. Byddwn yn cael ysbrydoliaeth o’n harddangosfa “Carreg Ateb: Gweledigaeth neu Freuddwyd?”, trwy edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae gwneud marciau a gwead wedi cael eu harchwilio.
Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn ar gyfer pob oed a gallu. Nid oes angen tocyn arnoch i fynychu’r digwyddiad hwn, galwch heibio unrhyw bryd!
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am fynediad, cysylltwch ag [email protected]