Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gwneud Synnwyr: Dwylo Bach – sesiynau chwarae creadigol a synhwyraidd

20 Chwefror 2026

Time: 10:30 - 12:00

Gweithdy plant

Rydym wrth ein bodd yn eich gwahodd chi a’ch rhai bach i ymuno â ni yn oriel Mostyn, am gyfres hyfryd o sesiynau creadigol a synhwyraidd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer plant blynyddoedd cynnar a’u teuluoedd neu ofalwyr.

Mae ein rhaglen, Dwylo Bach, yn addo profiad bywiog a diddorol, gan dynnu ysbrydoliaeth o raglen arddangosfeydd Mostyn. Mae ein sesiynau Dwylo Bach yn llawn dop o ddysgu llawen ac wedi’u cynllunio i artistiaid bach archwilio eu creadigrwydd mewnol, bod yn chwilfrydig a GWNEUD! Gan greu amgylcheddau a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan raglenni arddangosfeydd ein partneriaid creadigol, sy’n synhwyraidd ac yn chwareus i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Rhaid i bob plentyn gael ei oruchwylio a bod yng nghwmni oedolyn. Archebwch docyn i bob aelod o’r grŵp fynychu, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid.

Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr