Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Ioga oriel gyda Bryony Williams

22 Mai 2024

Time: 9:15 - 10:30

Gweithdy

Ymunwch â hyfforddwr Ioga ardystiedig, Bryony Williams, am sesiwn yoga ben bore yn Oriel Mostyn. 

I gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol o waith Paul Maheke, rydym yn eich gwahodd i fwynhau’r celf trwy sesiwn dawel o yoga yn yr oriel.  Bydd taith fer o waith Maheke yn cyflwyno’r syniadau a’r cysyniadau y tu ôl i’r lluniadau personol a graddfa fawr. 

Bydd y sesiwn hon yn cychwyn yn gyntaf gyda chyflwyniad byr i waith Paul Maheke, ac yna sesiwn awr o hyd gyda Bryony. Cyrhaeddwch mewn pryd i brofi dwy elfen y digwyddiad hwn yn llawn. Mae gennym ni fatiau ar gael i chi eu defnyddio os nad oes gennych chi un. Mae’r rhain yn gyfyngedig ac ar gael trwy’r opsiynau tocyn. Os oes gennych chi eich mat eich hun, dewch ag ef gyda chi fel y gallwn gynnig lleoedd gwag i’r rhai nad oes ganddynt rai eu hunain. Mae’r sesiwn hon yn addas i ddechreuwyr ond gall pob lefel o allu ei mwynhau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â [email protected] 

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu’n hael drwy’r cyllid Rhannu Ffyniant.

Book

Event information

Cost: Am ddim

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr