Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Owain Train McGilvary a Dylan Huw: Fel gwacter

5 Hydref 2024 - 25 Ionawr 2025

Arddangosfa

Owain Train McGilvary and Dylan Huw, Fel gwacter, 2024, Film Still.

Mae chwilfrydedd gan Owain Train McGilvary a Dylan Huw ym mhŵer ffurfiau clyweledol i ddad-sefydlogi – ac i lygru – strwythurau hegemonaidd, trwy gyfuno cyd-destunau amrywiol mewn ffyrdd chwareus. Yn Fel gwacter (2024), eu ffilm gyntaf, maen nhw’n defnyddio ffurf o chwedleua cwiar draws-hanesyddol, i ymholi mewn i dyllau ac absenoldebau yn y ffyrdd rydym yn meddwl am hanesion Cymreig.

Yn ganolog i ddelweddaeth y ffilm mae deialog rhwng dau ofod Cymreig arwyddocâol: storfeydd ein casgliad celf cenedlaethol yng Nghaerdydd, ac adfeilion Barics Dre Newydd yn chwarel Dinorwig. Mae Fel gwacter yn awgrymu perthynas ddrychol rhwng y ddwy safle: fel llefydd caiff hanes ei storio, mewn ffordd fyw, lle gellir cyffwrdd (neu hyd yn oed cruisio) profiadau a chyfarfyddiadau sydd cyn ein hamser ni – yn rai “go iawn” a dychmygol.

Gan ludlunio deunydd archifol, sgwennu a darluniau a gyfnewidwyd rhwng y ddau artist dros gyfnod o chwe mis, mae Fel gwacter yn taro golwg fforensig ar archifau Cymreig a cwiar o wahanol fathau, gan ymwrthod â naratifau gor-syml o “ail-ddarganfod” ac “ymbweru,” a thresmasu rhwng ffiniau genre, iaith, amser a lle. Mae’r ffilm, gyda gwaith sain gan Talulah Thomas, yn galaru ac hefyd yn dathlu’r holl gyfarfyddiadau hanesyddol posib na chafodd eu recordio na’u harchifo.

Mae’r ffilm 28 munud o hyd ac yn dechrau chwarae bob hanner awr.

Mae’r gwaith newydd hwn wedi’i gomisiynu drwy raglen CELF, oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru. Mae Mostyn yn un o bartneriaethau CELF o un ar ddeg o leoliadau ledled Cymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu a darparu cyfleoedd i alluogi pobl i gael mynediad at a mwynhau gweithiau celf o gasgliad cenedlaethol Cymru o gelf gyfoes, yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cefnogir CELF gan Lywodraeth Cymru.

Artist profiles and statements

Owain Train McGilvary

Mae Owain Train McGilvary (g.1992, Bangor; byw a gweithio yn Glasgow) yn cydweithio rhwng ffilm, darlunio, collage a phaentio. Mae’n ddarlithydd yn y Glasgow School of Art, a roedd yn Gymrawd Cymru Fenis 10 (2022-3).

Dylan Huw

Mae Dylan Huw (g.1996, Aberystwyth; byw a gweithio yn Gaernarfon) yn sgwennwr a fu’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol (2022-3), yn gymrawd ymchwil gyda Visual AIDS (2023) ac yn olygydd cyfnodolyn Artes Mundi 10.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr