Arddangosfa

Taloi Havini, Habitat (2018-19), Artspace, Sydney, HD, colour, black + white, 5.1 surround sound, 1033 mins. Image credit Zan Wimberley.
Artes Mundi yw’r sefydliad celfyddydau gweledol rhyngwladol blaenllaw ar gyfer Cymru sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, y DU. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi wedi ymrwymo i weithio gydag artistiaid y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti cymdeithasol a phrofiad byw. Cynhelir arddangosfa a gwobr Artes Mundi bob dwy flynedd, ac ochr yn ochr â’r rhain mae rhaglen gyhoeddus barhaus, partneriaethau cymunedol cyd-greadigol, prosiectau a chomisiynau. Yr enillwyr blaenorol yw Apichatpong Weerasethakul (2019), John Akomfrah (2017), Theaster Gates (2015), Teresa Margolles (2013), Yael Bartana (2010), NS Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006), a Xu Bing (2004). Am y tro cyntaf i Artes Mundi, penderfynodd y rheithgor yn unfrydol ddyfarnu Gwobr Artes Mundi 9 i bob un o’r chwe artist ar y rhestr fer yn 2021.
Bydd Artes Mundi 10, Partner Cyflwyno: Bagri Foundation, yn foment drobwynt i Artes Mundi wrth i ni ddathlu ar yr un pryd etifeddiaeth yr ugain mlynedd diwethaf gan weithio gyda rhai o leisiau artistig mwyaf eithriadol y cyfnod diweddar wrth edrych ymlaen at sicrhau ein bod yn parhau i fod yn berthnasol i yr ugain mlynedd nesaf.
I nodi’r 20fed pen-blwydd hwn, bydd arddangosfa AM10 yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf ledled Cymru mewn pum lleoliad cenedlaethol, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter yng Nghaerdydd; Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, Oriel Davies yn y Drenewydd a Mostyn yn Llandudno, gan ddarparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol brofi’r sioe. Bydd arddangosfa AM10 yn cynnwys cyflwyniadau unigol arwyddocaol o waith newydd a phresennol saith o artistiaid cyfoes rhyngwladol pwysicaf y byd.
Rushdi Anwar (Ganed Cwrdistan. Yn byw ac yn gweithio rhwng Gwlad Thai ac Awstralia) yn arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Carolina Caycedo (Ganed yn y DU i rieni o Colombia. Yn byw ac yn gweithio yn UDA) yn arddangos yn Oriel Davies a Chapter.
Alia Farid (Ganed Kuwait. Yn byw ac yn gweithio rhwng Kuwait City a Puerto Rico) yn arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Naomi Rincon Gallardo (Ganed UDA. Yn byw ac yn gweithio ym Mecsico) yn arddangos yn Chapter.
Taloi Havini (Ganed Bougainville (Llwyth Nakas/ Hakö. Yn byw ac yn gweithio yn Awstralia) yn arddangos ym Mostyn a Chapter.
Nguyen Trinh Thi (Ganed ac mae’n parhau i fyw a gweithio yn Fietnam) yn arddangos yn Oriel Gelf Glynn Vivian a Chapter.
Mounira Al Solh (Ganed Libanus. Yn byw ac yn gweithio yn Libanus a’r Iseldiroedd) yn arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ledled Cymru, bydd cyflwyniadau unigol gan bob artist gyda’i gilydd yn archwilio syniadau sy’n ymwneud â chysylltiadau â thir, tiriogaethau a hanes a ymleddir, cwestiynu cenedligrwydd a’i heffaith amgylcheddol, a sut mae’r syniadau hyn yn herio syniadau rhagdybiedig o hunaniaeth a pherthyn.
Artist profiles and statements
Taloi Havini
Mae Taloi Havini yn artist amlddisgyblaethol sy’n defnyddio ystod o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, sain – fideo, cerflunwaith, gosodiadau trochi a phrint. Mae gwybodaeth – cynhyrchu, etifeddiaeth, mapio, a chynrychiolaeth mewn perthynas â’i mamwlad yn Bougainville yn themâu craidd ar draws gwaith Havini.
Mae comisiynau ac arddangosfeydd mawr yn cynnwys yr 17th Istanbul Biennial; TBA21–Academy & Schmidt Ocean Institute, Ocean Space, Fenis; Artspace, Sydney; Uwchgynhadledd Gelf Dhaka, Bangladesh; Palais de Tokyo, Paris; Sharjah Biennial 13; 9th Asia Pacific Triennial of Contemporary Art, QAGOMA, Brisbane: The National, AGNSW, Sydney. Cedwir ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus gan Sharjah Art Foundation, Art Gallery of New South Wales (AGNSW), National Gallery of Victoria, KADIST and Queensland Art Gallery (QAGOMA). Bydd yn cymryd rhan yn yr 14th Gwangju Biennale (2023).
Cynrychiolir Taloi Havini gan Silverlens, Manila ac Efrog Newydd.