Artes Mundi 11: Jumana Emil Abboud

Ledled Cymru, mae cyflwyniadau unigol gan bob artist, o’u hystyried ynghyd, yn archwilio syniadau sy’n ymwneud â chysylltiadau â thir, cyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, cymhlethdodau mudo, gwrthdaro, ac effaith amgylcheddol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n archwilio sut mae’r syniadau hyn yn herio rhagsyniadau am hunaniaeth a chof etifeddol er mwyn adrodd straeon sy’n aml yn cael eu cadw’n dawel.
Mae AM11 yn gyfle unigryw i fyfyrwyr ymwneud â’r deialogau hyn drwy Gelf Gyfoes. Mae’r pecyn adnoddau hwn wedi’i lunio ar gyfer ysgolion i gefnogi dysgu am waith yr artistiaid a themâu’r arddangosfa.
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol a’i Ddatganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig, sef:
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Mae’r gweithgareddau a’r cynnwys a amlinellir yn yr adnodd hwn wedi’u hanelu at ddisgyblion sy’n astudio ym mlynyddoedd 10 ac uwch ond gellir eu haddasu hefyd ar gyfer disgyblion iau yn unol â’r Egwyddorion Cynnydd.
Drwy’r pecyn adnoddau hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i archwilio Hawliau a Chyfrifoldebau Dynol a Cyfiawnder Amgylcheddol a Hinsawdd.
Gan gysylltu â’r unedau creadigol a thrawsgwricwlaidd, bydd y disgyblion yn:
- Meddwl yn greadigol ac yn feirniadol i ganfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio eu barn.
- Dyfnhau eu dealltwriaeth o faterion cyfoes, drwy greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau wedi’u hwyluso, gan gysylltu â’r wybodaeth a’r gwerthoedd sydd ganddynt eisoes.
- Dyfnhau eu dealltwriaeth o gyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd a dysgu mwy am anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelodau parchus o gymdeithas amrywiol.
- Creu cysylltiadau a throsglwyddo’r hyn maent yn ei ddysgu i gyd-destunau newydd rhwng eu diwylliannau, eu cymunedau, a’u cymdeithasau eu hunain a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol.
- Archwilio a dysgu am gyfiawnder amgylcheddol a’u hymrwymiad unigol i gynaliadwyedd y blaned.



