
Gweithio gyda Mostyn, CARN a Borderland Poetics ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2026
Mae Borderland Poetics: Rewilding Tongues yn cyhoeddi galwad agored i guraduron, cynhyrchwyr neu hwyluswyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd i weithio gyda CARN a Mostyn. Mae hon yn gyfle i weithwyr proffesiynol diwylliannol sy’n dod i’r amlwg ac wedi’u lleoli yn Estonia, Gwlad yr Iâ neu’r Ffindir i ennill profiad gwaith rhyngwladol uniongyrchol, ac i ddysgu am baratoi a chynhyrchu arddangosfeydd a rhaglenni cyhoeddus. Mae hwn yn gyfle â thâl sy’n hyrwyddo cydweithrediad rhwng Cymru a’r rhanbarth Nordig-Baltig.
Rhaid i’r ymgeisydd fod yn barod i weithio dros gyfnod o dair wythnos yng Ngogledd Cymru, rhwng Llandudno a Chaernarfon, rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2026. Bydd y cynorthwyydd yn gweithio ar y cyd â thimau CARN a Mostyn i gynorthwyo gyda chynhyrchu digwyddiadau, gosod arddangosfeydd a rheoli, yn ogystal â dysgu am y meysydd hyn. Bydd cyfleoedd i rannu eich diddordebau ymchwil â thîm o guraduron a chyfarwyddwyr Mostyn a CARN. Darperir cymorth i hwyluso cyflwyniadau i artistiaid yn yr ardal, trefnu ymweliadau â stiwdios a hwyluso cyfarfodydd â sefydliadau lleol.
Mae patrymau gwaith a dyddiadau cychwyn yn hyblyg i weddu i anghenion yr ymgeiswyr, ond dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o daith ymchwil Borderland Poetics rhwng y 9fed a’r 13eg o Dachwedd; yn ystod y cyfnod hwn, bydd curaduron, artistiaid a chyfarwyddwyr o rwydwaith Borderland Poetics yn ymweld â Gogledd Cymru.
Manylion y grant
Mae’r rhaglen yn cynnig ysgoloriaeth o €3,000 ar gyfer cyfnod cyfan yr interniaeth ac yn talu costau teithio (a chostau fisa os oes angen) i’r cyfranogwr hefyd. Rhaid i’r cyfranogwr drefnu a thalu am lety, ond bydd y sefydliadau cynnal yn helpu i ddod o hyd i’r llety os oes angen. Gall y sefydliad cynnal hefyd helpu i wneud cais am gymorth interniaeth ychwanegol gan Erasmus+ neu ffynonellau eraill os yw’n berthnasol.
Y broses ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Hydref 2026.
Anfonwch eich cais at [email protected] gan nodi’r wlad lle rydych chi wedi’ch lleoli. Bydd panel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o CARN a Mostyn yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad, ac oddi yno bydd un cyfranogwr yn cael ei ddewis ar gyfer y cyfnod profiad gwaith.
Dogfennau i’w cyflwyno cyn y dyddiad cau (yn Saesneg):
- CV
- Llythyr cymhelliant yn nodi’r hyn rydych chi’n gobeithio ei ddysgu a sut y gallwch gyfrannu at CARN a Mostyn
- Llythyr argymell (dewisol). Rydym yn annog cyfeiriad academaidd neu lythyr gan gyn-gydweithiwr neu uwch-swyddog yn nodi sgiliau a phrofiadau’r ymgeisydd ym maes celf gyfoes
Gofynion:
- Addysg uwch (o leiaf lefel BA) ym maes y celfyddydau;
- Siaradwr Saesneg rhugl;
- Rhaid bod wedi’i leoli yn, neu’n dod o, Estonia, Gwlad yr Iâ neu’r Ffindir;
- Bydd profiad gwaith yn y celfyddydau gweledol yn cael ei ystyried yn fantais.
Ynglŷn â’r sefydliadau derbyn
CARN
Mae CARN yn fenter dan arweiniad artistiaid, sy’n agored i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac aelodau’r gymuned. Y rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau, creadigrwydd a all weld ei fanteision i lesiant a ffyniant y gymuned. Mae CARN yn cydnabod, trwy helpu artistiaid i ddatblygu arferion celf hyderus a ffyniannus, y gall wneud y mwyaf o’r cyfraniad a wnânt i gymdeithas. Mae CARN yn ffynnu gyda chyfranogiad, boed yn wirfoddoli i helpu i osod yr arddangosfa nesaf, rôl llawrydd yn rhedeg ein sesiwn ABC neu’n cymryd rhan yn un o nosweithiau ein haelodau. Mae CARN yn fenter dan arweiniad artistiaid sy’n cynnal gweithdai cymunedol, sgyrsiau, preswylfeydd ac arddangosfeydd a phrosiectau allanol fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol.
Mostyn
Mae Mostyn yn oriel gelf gyhoeddus yn Llandudno, Gogledd Cymru, gyda rhaglen o arddangosfeydd celf gyfoes sy’n gymharol â’r rhai mewn canolfannau celf byd-eang. Mae Mostyn yn creu amrywiaeth o weithgareddau creadigol i ymwelwyr eu mwynhau yn Mostyn neu gartref, sydd wedi’u hysbrydoli gan y rhaglen arddangosfeydd. Mae Mostyn hefyd yn gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, a grwpiau ieuenctid, cymunedol ac anghenion arbennig.
Ynglŷn â’r rhaglen
Mae’r rhaglen interniaeth yn rhan o’r prosiect Borderland Poetics: Rewilding Tongues, prosiect cydweithredu tair blynedd rhwng Canolfan Celf Gyfoes Estonia (Tallinn, Estonia), Amgueddfa Gelf Aine (Tornio, y Ffindir), Canolfan Gelf Gwlad yr Iâ (Reykjavik, Gwlad yr Iâ), Mostyn (Llandudno, Cymru) a CARN (Caernarfon, Cymru). Nod y prosiect yw cysylltu gweithwyr proffesiynol ym maes diwylliant sy’n gweithio yng Nghymru ac yn rhanbarth y Baltig a’r gwledydd Nordig, a chreu cyfleoedd interniaeth â thâl ar gyfer gweithwyr proffesiynol diwylliannol sy’n dod i’r amlwg. Cynhaliwyd interniaethau blaenorol ar y cyd â Tallinn Print Triennial yn Estonia a Gŵyl Gelf Sequences yng Ngwlad yr Iâ.
Ar gyfer y cyfnod profiad gwaith yng Nghymru, mae Mostyn wedi gwahodd CARN i ymuno fel partner lletyol, gan ymestyn y cydweithrediad ar draws Gogledd Cymru a chryfhau ei gysylltiad ag ecosystem ddiwylliannol ehangach y rhanbarth.
Mae teitl y prosiect yn cyfeirio at arddangosfa, “Border Poetics”, a guradwyd gan y curadur o Estonia, Eha Komissarov, yn 2018.
Cefnogir y prosiect gan Nordic Culture Point.
Gwybodaeth ychwanegol
Kalliopi Tsipni Kolaza
Curadur y Celfyddydau Gweledol, Oriel Mostyn
[email protected]
Menna Thomas
Curadur a Chydlynydd, CARN
[email protected]



