Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Cerith Wyn Evans: ….)(

8 Hydref 2022 - 25 Chwefror 2023

Arddangosfa

Aspen Drift, 2021 © Cerith Wyn Evans. Ffoto © Carter Seddon Trwy garedigrwydd yr artist, White Cube ac Aspen Art Museum.

Mae arfer artistig Cerith Wyn Evans (g. 1958, Llanelli) yn ymgorffori ystod amrywiol o gyfryngau gan gynnwys gosodwaith, cerflunwaith, ffotograffiaeth, ffilm a thestun. Dechreuodd ei yrfa fel gwneuthurwr ffilmiau, gan gynhyrchu ffilmiau byr, arbrofol a gweithiau cydweithredol. Ers y 1990au mae wedi creu gweithiau celf sy’n ystyried iaith a chanfyddiad, gan ganolbwyntio’n gydag eglurder manwl ar eu hamlygiad o fewn gofod, fel y gwelir yma drwy orielau llawr gwaelod a cyntaf Mostyn.

Mae’r gweithiau’n bodoli ac yn cymryd ffurf trwy fyfyrio ar y byd o’n cwmpas a’i ymholi, gan fabwysiadu’r hyn y mae’n ei nodi fel “strategaethau plygiant… cyfosod, arosod a gwrth-ddweud… achludiad a datgelu” i greu eiliadau o rwyg o fewn strwythurau cyfathrebu presennol, boed yn weledol, yn glywadwy neu’n gysyniadol. Ar gyfer yr arddangosfa hon mae wedi canolbwyntio ar syniadau ynghylch plygiadau a llifoedd egni trwy gwndidau materol ac anfaterol, cylchedwaith, a choreoleg:- yr arfer o drosi symudiad i ffurf nodiant. Mae Wyn Evans yn ymgysylltu â safle’r oriel i gynhyrchu gweithiau sy’n cwestiynu ein syniadau o realiti a gwybyddiaeth, o ganfyddiad a goddrychedd… yr arddangosfa fel myfyrdod, arbrawf gyda mynediad hylif at sgorau, mapiau, diagramau a modelau…

Mae cerfluniau neon cywrain yn cwestiynu’r modd o ganfyddiad ac yn cwestiynu sut rydym yn dehongli’r gweithiau a’u hamgylchoedd gofodol a ddefnyddir i lunio ystyr. Mae’r casgliad gweledol a gyflwynir ar y cyd ar draws yr orielau yn datblygu mewn rhyw fath o ‘hap wedi’i reoli’, lle mae gweithiau celf yn cydfodoli mewn drama o gyfnewidiadau rhwng cyfyngau a dwysterau. Mae gweithiau neon wedi’u crogi a’u hunigo yn y gofod, mae colofnau golau saith metr o uchder yn disgyn o’r nenfwd fel coedwig feddwl isganfyddol, mae sgriniau gwynt crog yn symudol, ac mae cwareli gwydr tryloyw yn atseinio gyda thrac sain a ddiffinnir gan berthnasau o hyd mewn fflwcs.

Cydnabyddiaeth

Curadir yr arddangosfa gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, Mostyn, gyda chymorth Kalliopi Tsipni Kolaza, Curadur Cyswllt Celfyddydau Gweledol, Mostyn, Robert Grose, Rheolwr Arddangosfeydd, Mostyn, a Cecily Shrimpton, Pennaeth Gweithrediadau, Mostyn. Cefnogir y prosiect yn hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, White Cube, Oriel Marian Goodman, Neonline, Dr Carol Bell, Salisbury & Co. ac Ellis Williams Architects, ynghyd â chymorth cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Llandudno.

Cyngor Mynediad

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn yn yr orielau oherwydd gweithiau celf fregus.

Oherwydd cerfluniau gwydr, goleuadau a darnau sain yn yr arddangosfa efallai y bydd rhai unigolion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cael eu harwain trwy’r sioe gan aelod o staff. Bydd y tîm blaen tŷ yn hapus i’ch cynorthwyo.

Os oes gennych nam ar eich golwg, yn niwroddargyfeiriol, ag anghenion ychwanegol, a/neu os oes gennych anawsterau prosesau synhwyraidd, gofynnwch am gymorth i fynd drwy’r arddangosfa ac am fwy o wybodaeth os oes angen.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth: post@mostyn or 01492 879201

Artist profiles and statements

Cerith Wyn Evans

Ganed Cerith Wyn Evans ym 1958 yng Nghymru ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain a Norwich. Mae wedi arddangos yn helaeth gan gynnwys arddangosfeydd unigol yn Aspen Art Museum (2021), Pirelli HangarBicocca (2019), Museo Tamayo, Dinas Mecsico (2018); Duveen Galleries Tate Britain, Llundain (2017); Museion, Bolzano, yr Eidal (2015); The Serpentine Gallery, Llundain (2014); TBA-21 Augarten, Fienna (2013); Bergen Kunsthall, Norwy (2011); Tramway, Glasgow (2009); Inverleith House, Caeredin (2009); Museo de Arte Contemporáneo de Castilla y León, Sbaen (2008); Musée d’art moderne de la ville de Paris (2006); a Kunsthaus Graz, Awstria (2005). Mae wedi cymryd rhan yn y 57fed Biennale Fenis (2017); 4ydd Biennale Moscow (2011); 12fed Biennale Pensaernïaeth Fenis (2010); Aichi Triennale 1af, Japan (2010); 3ydd Yokohama Triennale, Japan (2008); 9fed Dwyflynyddol Istanbwl (2005); a 50fed Biennale Fenis (2003). Yn 2018 enillodd Evans Wobr Cerflunwaith Hepworth Wakefield gyda’i waith anferthol ‘Composition for 37 Flutes’, 2018.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr