StudioMADE – Llinell, Siâp, Gofod a Golau

Wedi’i ysbrydoli gan waith Cerith Wyn Evans, mae Mostyn wedi gwahodd StudioMADE o Ogledd Cymru i gynhyrchu adnodd dysgu rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd a’u artistiaid ifanc.
Gan archwilio sut mae bodau dynol yn dehongli siapiau, llinellau a seiniau, mae adnodd dysgu StudioMADE yn wahoddiad i ddarganfod posibiliadau newydd ac edrych yn fanwl ar y gofodau cymylog yn y ‘rhyngddynt’ lle mae’r elfennau hyn yn gorgyffwrdd.
Mae’r pecyn adnoddau dysgu hwn ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol neu gallwch ddod o hyd i fersiynau printiedig yn yr oriel. Siaradwch ag un o’n tîm Ymgysylltu os hoffech chi neu aelodau’ch teulu ddefnyddio un o’r pecynnau hyn yn ystod eich ymweliad â Mostyn.