
Gyda’i bartner cyflwyno, Sefydliad Bagri, mae Artes Mundi, arddangosfa flaenllaw a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y DU, a gynhelir bob dwy flynedd, wedi cyhoeddi mai Antonio Paucar (ganed 1973 Huancayo, Periw; sy’n byw ac yn gweithio yn Berlin a Huancayo) yw enillydd gwobr Artes Mundi 11 (AM11), gyda gwobr o £40,000. Ochr yn ochr ag ef, mae Sancintya Mohini Simpson (ganed 1991 Meeanjin/Brisbane, sy’n byw ac yn gweithio yn Meeanjin/Brisbane, Awstralia) wedi cael ei henwi’n enillydd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams, gan arwain at brynu un neu fwy o’i gweithiau o’r arddangosfeydd ar gyfer Amgueddfa Cymru. Mae Paucar a Simpson yn ddau artist ymysg chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol y mae eu gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd mewn pum lleoliad yng Nghymru tan 1 Mawrth 2025 ar gyfer yr unfed Artes Mundi ar ddeg. Cyflwynir gwaith Paucar ym Mostyn yn Llandudno, gyda gwaith Mohini Simpson yn Chapter yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â’r sioe grŵp yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae Antonio Paucar yn creu iaith artistig unigryw drwy berfformiadau, cerfluniau a fideo. Gan dynnu ar ei wreiddiau a diwylliant materol ei gefndir fel brodor o’r Andes, mae ei ymarfer yn mynd i’r afael yn farddonol â’r gwrthdaro cyfoes sy’n wynebu pobl frodorol a’r bygythiadau drwy hynny i le a chartref. Ar gyfer AM11, mae Paucar yn cyflwyno cyfres o gerfluniau mawr newydd ac sy’n bodoli eisoes, mewn gwlân alpaca wedi’u gwehyddu â llaw, a fideos perfformio cysylltiedig ynglŷn â’u gwneuthuriad, sy’n deillio o berfformiadau byw sy’n adlewyrchu defodau ac ymyriadau. Ym Mostyn, mae cyflwyniad Paucar yn cynnwys y cerflun tecstilau mawr Illapa (2021) a thafluniad o’r fideo perfformiad Suspendio en la Quenua (2014). Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Paucar yn ailedrych ar waith cynharach i greu perfformiad newydd sydd wedi’i wreiddio yng Ngogledd Cymru. Dangosir argraffwaith y weithred o berfformio llawsafiad yn erbyn wal yr oriel, gyda thraed wedi’u gorchuddio â chlai, ochr yn ochr â ffilm o’r perfformiad. Yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae Paucar yn cyflwyno’r perfformiad newydd La Energia Espiral del AYNI II sy’n cynnwys perfformiad fideo a gwrthrych sy’n deillio ohono, sef cylch gwlân alpaca du a gwyn troellog. Yn El Corazón de la Montaña (2018-19), mae’r artist yng nghadwyn mynyddoedd Huaytapallana, ardal sydd dan fygythiad oherwydd bod rhewlif yn cilio’n sylweddol, adnoddau dŵr yn cael eu colli, difrod ecolegol a mwy o beryglon i’r cymunedau sy’n dibynnu ar ei hecosystem a’i chyflenwadau dŵr. Mae’n fan addoli ac ysbrydol i bobl Mantaro yn yr Andes. Gan ddefnyddio ei waed ei hun, mae Paucar yn ysgrifennu brawddeg yn ei famiaith, sef wanka lima (wanka Quechua), a’i hystyr yw: “Mae calon y mynyddoedd sanctaidd yn wylo gwaed.”
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Beirniaid Artes Mundi 11:
“Ers dros ugain mlynedd, mae Artes Mundi yn llwyfan blaenllaw mewn celf gyfoes, gan gyfrannu at siapio’r maes drwy gyflwyno lleisiau a safbwyntiau newydd a rhai nad ydynt yn cael eu cydnabod ddigon; cefnogi gwahanol ddulliau cyflwyno, a dulliau o greu a rhannu gwaith ar yr un pryd â sicrhau bod y safbwyntiau a’r methodolegau hyn yn cyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Yn AM 11, rhywbeth arbennig o ddifyr i ni, heblaw cryfder y safbwyntiau artistig, oedd sut roedd y sefydliad yn dosbarthu’r arddangosfeydd ledled y wlad i dynnu sylw at waith cymunedau celfyddydol y tu allan i’r canol, gan sicrhau bod modd rhannu adnoddau a gwaith gyda chynulleidfaoedd ledled y wlad.”
“Rydym o’r farn fod pob cyflwyniad yn haeddu cydnabyddiaeth, gan fod pob artist yn ymdrin â materion dybryd ein hoes o safbwynt penodol a gyda thrylwyredd diwyro. Ar ôl trafod yn helaeth, rydym yn enwebu Antonio Paucar ar gyfer Gwobr AM11, fel artist y mae ei ymarfer eang yn crynhoi ymrwymiad ac ymgysylltiad hirdymor â’i amgylchedd a’i gymunedau lleol gan greu gwaith sy’n siarad yn bwerus â chyd-destunau ymylol a hanesion cloddio. Mae ei ddarbodaeth sensitif o ran dull, sydd wedi’i wreiddio ym myd natur, cynaliadwyedd a sylw i brinder adnoddau, yn arbrofi drwy ddeunyddiau ac yn weledol gydag ystumiau barddonol treiddgar sy’n ymestyn eu cyrhaeddiad y tu hwnt i derfynau dychmygion gwleidyddol cyfyngol. Mae ymarfer Paucar, ochr yn ochr â phob cyflwyniad arall, yn cyd-fynd â chefnogaeth Artes Mundi i ymarfer sy’n bodoli y tu hwnt i bwysau a phrototeipiau’r farchnad gelf, gan barhau i fod yn ymrwymedig i ryddid artistig ac arbrofi.”
Dywedodd Adam Lewis-Smythe, Cyfarwyddwr Mostyn:
“Rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o Artes Mundi 11 ac i ddathlu heddiw fod Antonio Paucar wedi ennill y wobr fawreddog hon am gorff mor fedrus o waith. Mae cynulleidfaoedd lleol a rhai sy’n ymweld yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi mwynhau gweld ei weithiau yn Llandudno, sef cerfluniau a fideos perfformiad cysylltiedig, yn newydd ac yn rhai sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â gwaith newydd sbon wedi’i wreiddio yn ein tirwedd yng Ngogledd Cymru.”
Mae Sancintya Mohini Simpson yn ddisgynnydd i lafurwyr ymrwymedig a anfonwyd o India i weithio ar blanhigfeydd siwgr trefedigaethol yn Ne Affrica. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn y cefndir teuluol hwn, ac yn ymdrin â chymhlethdodau mudo, y cof a thrawma, gan roi sylw i’r bylchau a’r tawelwch yn yr archif drefedigaethol. Mae ei hymarfer yn cwmpasu paentio, fideo, barddoniaeth a pherfformio, ac yn myfyrio ar ei llinach ar ochr ei mam drwy naratifau a defodau. Caiff gwaith dyfrlliw a gouache aml-banel mawr ar bapur sy’n cyfeirio at draddodiadau paentiadau bychain Indiaidd, yn ogystal â’r tirluniau o’r awyr sy’n gyffredin yng nghelf frodorol Awstralia, ei gyflwyno yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar fenthyg gan MCA, Sydney, Awstralia. Ochr yn ochr â hyn mae Sugar Vessels, gwaith lle mae tair cwch glai du (wedi’u crasu mewn tomwellt siwgr) yn dod yn symbolau ar gyfer y corff, dŵr a chwch, gan gyfeirio at fordeithiau mudol a hanes tywyll a gweddillion y diwydiant siwgr.
Mae Gwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams yn galluogi Amgueddfa Cymru i brynu gwaith artist sydd ar restr fer Artes Mundi ar gyfer ei chasgliad parhaol o gelf weledol gyfoes. Rhai sydd wedi derbyn y wobr yn y gorffennol yw Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Bedwyr Williams, Tanya Bruguera ac Anna Boghiguian.
Dywedodd Jamie Seaton, detholwr ar gyfer Ymddiriedolaeth Derek Williams:
“Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams wrth ei bodd fod Sancintya Mohini Simpson wedi ennill Gwobr Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. Roedd ehangder gwaith yr artist wedi creu argraff ar y beirniaid, am ei fod yn cwmpasu paentiadau, cerflunwaith, gosodwaith, ffilm, perfformiad a’r gair ysgrifenedig, ac yn cynnal unigoliaeth ac undod pwrpas clir. Roedd y gwaith ar bapur wedi creu argraff arbennig: mae’r defnydd o dechnegau miniaturau o Ogledd India, sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â hanesion mytholegol sy’n ceisio cyffredinoli’r anghyfiawnderau a ddangosir, tra bo ceinder, manylder a harddwch y gweithiau yn dod â’r gwyliwr yn baradocsaidd – ac yn frawychus – yn ôl wyneb yn wyneb ag erchyllterau penodol.”
Fel llwyfan hanfodol o gyfnewid diwylliannol rhwng y DU a chymunedau artistig byd-eang sy’n canolbwyntio ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’ yn barhaus, mae Artes Mundi yn dod ag arddangosfa sylweddol o gelf gyfoes at ei gilydd bob dwy flynedd, gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’r gwaddol o gyflwyno gwaith eithriadol yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â materion pwysig ein hoes. Dyma leoliadau arddangos unigol AM11: Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno. Mae’r holl artistiaid yn cael eu cynrychioli mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan weithredu fel canolbwynt sy’n cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau o amgueddfeydd mawr sy’n cyfleu craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Mae’r sioe grŵp yn caniatáu i ddeialog thematig gael ei datgelu rhwng pob artist, wedi’i gwreiddio mewn hanesion personol a straeon sy’n archwilio materion colled, cof a mudo gyda’r trawma a’r gost amgylcheddol ddilynol. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol manwl ledled y wlad.



