Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Revital Cohen and Tuur Van Balen: Merch y Ci

23 Mawrth 2024 - 29 Mehefin 2024

Arddangosfa

Mae Merch y Ci yn arddangosfa o weithiau newydd eu comisiynu gan Revital Cohen a Tuur Van Balen.

Gan symud ar draws ffilm, cerflunwaith a sain, mae’r sioe yn llawn ffurfiau o ymddygiad ymosodol, cariad a cholled. Gan ddechrau o archwiliad o alar, mae’r arddangosfa’n ymgysylltu ag emosiynau cymhleth a’u natur anneuaidd, ac mewn ystyr ehangach â realiti fel cyfansoddiad o wrthddywediadau. Mae’r gweithiau’n cael eu harddangos fel cytser sy’n edrych ar y gwagle a’r rhwymynnau sydd ganddo; gor-effro, fympwyol, blodeuog, darnidiog a blêr.

Gwneir y ffilm o’r un enw gan ddilyn dulliau anhraddodiadol o gyfansoddi cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon; dod â symudiadau (camera a chorff), testun a delweddau at ei gilydd i lunio sgôr a berfformiwyd gan blanhigion cigysol, ci robot, gwyfynod Atlas, Bugeiliaid Almaeneg a dawnswyr yn ymarfer coreograffi moshio pogo.

Mae Revital Cohen a Tuur Van Balen (DU/BE, g.1981, wedi’u lleoli yn Llundain) yn gweithio ar draws gwrthrychau, gosodiadau a ffilm. Mae eu gwaith cydweithredol yn archwilio prosesau cynhyrchu a’r tensiynau rhwng yr organig a’r artiffisial.

Mae Merch y Ci wedi’i churadu gan Kalliopi Tsipni Kolaza, Curadur Celf Weledol, Mostyn, gyda chefnogaeth garedig gan Foundation Foundation, Somerset House a Gardd Fotaneg Treborth.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr