Arddangosfa

Jonathan Baldock, Held, 2026 (Installation View) at Arnolfini. Courtesy of the artist and Arnolfini. Photography by Dan Weill.
Mae Held yn arddangosfa unigol o decstilau, cerfluniau, sain ac arogl gan yr artist Prydeinig Jonathan Baldock, sydd wedi ennill clod gan y beirniaid. Datblygwyd yr arddangosfa gan Arnolfini ym Mryste a gomisiynodd hefyd Bear Hug, cerflun arth gwyllt anferth. Mae’n gwahodd ymwelwyr i gyfarfyddiad corfforol uniongyrchol, i gael eu dal ym mreichiau’r arth.
Mae gwaith Baldock yn tynnu ar y byd naturiol ym mhob un o’i gymhlethdodau. Mae wedi addurno waliau’r oriel gyda thecstilau appliqué sy’n darlunio bywyd planhigion blodeuol ac arth fam yn gofalu am ei rhai bach. Dangosir y darluniau hyn o dwf a gofal ochr yn ochr â chreaduriaid ffantastig sy’n rhan-ddynol, rhan-anifail, rhan-blanhigyn. Mae’r gweithiau hyn yn creu byd gwerin lle gall y byd naturiol fod yn feithringar, yn gyffrous iawn a hyd yn oed yn beryglus.
Mae’r artist yn adnabyddus am ei ddefnydd o sgiliau traddodiadol i greu ei waith. Mae sgiliau etifeddol fel gwnïo ac appliqué yn cysylltu’r artist â’i fam a’i nain. Mae gweithiau yn yr arddangosfa yn aml yn cyfeirio at gysylltiad â theulu, ffrindiau ac artistiaid eraill y mae Baldock yn teimlo’n gysylltiedig â nhw. Mae’r artist yn ein gwahodd ni i gyd i deimlo’r cysylltiadau hyn mewn oriel sydd wedi’i thrawsnewid gan synau, arogleuon a symbolau bywyd sy’n ffynnu.
Mae Held yn arddangosfa deithiol a ddatblygwyd gan Arnololfini lle cafodd ei harddangos yn wreiddiol (27 Mehefin – 27 Medi 2026). Mae’r arddangosfa wedi cael ei chefnogi’n hael gan Henry Moore Foundation.





