Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Sownd

11 Gorffennaf 2026 - 3 Hydref 2026

Arddangosfa

Photo: Dewi Tannatt Lloyd

Mae’r ffilm fer hon yn cyflwyno Sownd, y prosiect sy’n cynrychioli Cymru yn 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia 2026, un o ddigwyddiadau celf gyfoes bwysicaf y byd.

Mae Sownd yn osodwaith ymdrochol sy’n archwilio cysylltiadau rhwng tirwedd, iaith a deunydd. Mae’r artistiaid yn dod ag elfennau naturiol o ogledd Cymru a lagŵn Fenis ynghyd, a’u cyfuno â sain, cerflunwaith a thestun i greu un amgylchedd rhyng-gysylltiedig, wedi’i siapio gan yr adeilad hanesyddol. Ochr yn ochr â’r arddangosfa yn Fenis, mae digwyddiadau byw yng Nghymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi’r tirweddau y tu ôl i’r gwaith yn uniongyrchol.

Mae’r gair Cymraeg “sownd” – sy’n cwmpasu pob math o ddiffiniadau cyferbyniol – yn cyflwyno ffocws y prosiect ar amgylcheddau bregus a newidiol o wahanol fathau, a’r gwydnwch sydd ganddynt.

Mae’r gwaith wedi’i lywio gan ymchwil i fawndiroedd yng Nghymru: tirweddau gwlyb ac ansefydlog sy’n ymgorffori haenau dwfn o hanes, cof ac ystyr diwylliannol. Drwy gysylltu’r safleoedd hyn â Fenis, mae’r artistiaid yn tynnu sylw at heriau ecolegol cyffredin a’r ffyrdd y mae lleoedd yn storio, cyfuno a thrawsnewid straeon dros amser.

Yn ganolog i ddull Sownd o haenu hanesion materol mae ffurfiau diwylliannol sydd wedi’u gwreiddio yn yr iaith Gymraeg. Gan dynnu ar etifeddiaeth gyfoethog y wlad o gelfyddyd byw a chydweithredol, gan gynnwys barddoniaeth gynganeddol a theatr safle-benodol, mae’r prosiect yn creu “pensaernïaeth o gydblethu”, gan saernïo a glynu deunyddiau, seiniau a geiriau ynghyd.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr