Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Galwad am geisiadau: Ffair Brintiau Gogledd Cymru 2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru yn dychwelyd i Mostyn yn Llandudno, Gogledd Cymru, ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin 2025.

Bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru yn cael ei chynnal dros ddwy o’n horielau a mynedfa ein hadeilad, ac mae’n gyfle gwych i wneuthurwyr printiau o bob rhan o’r DU gyflwyno gwaith i’w werthu ym Mostyn.

Os ydych chi’n artist, gwneuthurwr, ddylunydd, stiwdio, grŵp neu fusnes deunyddiau celf gallwch ddarganfod mwy am ein ffeiriaur, darllen y telerau ac amodau a gwneud cais am stondin.

Mae ein hadeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.

  • Lleoliad: Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
  • Agored i’r cyhoedd: 10.30yb- 4.30yp
  • £95 y stondin

I ymgeisi

  1. Cwblhewch y ffurflen o’n gwefan yma
  2. Plîs anfonwch e-bost efo 4x delweddau uchel res / ansawdd da o’ch gwaith/nwyddau [dewisol – delwedd 1x o’r stondin flaenorol] i [email protected] wetransfer, dropbox ac ati a ffefrir.

Oherwydd problemau technegol gyda’n ffurflen gais, rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau tan 5yn ddydd Sul yr 11eg o Fai 2025.
Os ydych chi wedi cwblhau ffurflen gais a heb glywed yn ôl gennym, plîs cysylltwch â: [email protected]

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs anfonwch e-bost at [email protected]

Ni fyddwn ond yn cadw eich data hyd nes cwblhau’r Ffair Brintiau Gogledd Cymru. Ar ôl eich digwyddiad, bydd eich ffurflen archebu a manylion cyswllt yn cael ei storio’n ddiogel am 6 blynedd at ddibenion archwilio. Byddwn ond yn cysylltu â chi o ran y Ffair Brintiau Gogledd Cymru.

Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gydag unrhyw drydydd parti.

Gwybodaeth

1x bwrdd a bydd un gadair yn cael ei ddarparu.

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn ôl disgresiwn Mostyn.

Mae gofod wal yn ddewisol ac yn amodol ar argaeledd. Nodwch yn eich cais a fyddai’n well gennych gael waliau ai peidio.

Bydd angen i chi gyflenwi’ch offer eich hun [dim offer pweredig] a hoelion/sgriwiau.  Sylwer mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a’ch diogelwch pan fyddwch yn hongian gwaith ac yn ei dynnu i lawr.  Ni all Mostyn fod yn gyfrifol am unrhyw anaf neu ddifrod a achosir i chi neu i unrhyw un arall gan eich gwaith gosod/gwaith celf.

Yr stondinwyr sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hun wrth osod, tynnu i lawr a staffio eich stondin. Ni all Mostyn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw niwed neu ddifrod a achosir i chi neu unrhyw un arall gan eich stondin.

Rhaid i stondinwyr osod eu stondin eu hunain.  Rhaid i stondinwyr ddod â’u gorchuddion bwrdd, eu propiau a’u harddangosiadau eu hunain.

Bydd modd gosod mannau/stondinau o 8.30yb. Mae’r mynediad llwytho/gollwng yn gyfyngedig y tu ôl a yn y blaen i’r adeilad.

Bydd y gweithgarwch masnachu yn cychwyn am 10.30yb ac yn dod i ben pan fydd y ffair yn cau am 4.30yp. Ni ddylai masnachu ddod i ben cyn 4.30yp.

Rhaid gosod stondinau o fewn y paramedrau penodedig, ac ni ddylent achosi unrhyw rwystr i aelodau’r cyhoedd neu stondinwyr eraill. Cyfrifoldeb y stondinwyr hefyd yw sicrhau bod eu stondin yn cael ei chadw’n daclus ac yn rhydd o unrhyw beryglon baglu, sbwriel ac ati.

Rhaid gosod unrhyw ddodrefn stondin annibynnol [e.e.  standiau, unedau, rheseli ac ati] mewn ffordd ddigonol a gosod pwysau wrthynt yn ôl yr angen.

Ni ddarparir trydan na generaduron, ac ni fydd modd defnyddio’r rhain yn ystod y ffair.

Ar ddiwedd y ffair, mae stondinwyr yn gyfrifol am gael gwared ar y stondin a dodrefn / arddangosiadau’r stondin, eiddo ac ysbwriel. Rhaid i stondinwyr clirio stondinau erbyn 6.00yp.

Y maes parcio agosaf yw Gorsaf Drenau Llandudno, sydd bum munud i ffwrdd ar droed o’r oriel.  Sylwer mai maes parcio talu ac arddangos yw hwn.

Termau

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn ôl disgresiwn Mostyn.

Gwahoddir ceisiadau gan artist unigol, stiwdios, grwpiau a chyflenwyr deunydd celf.

Plîs rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch pan fyddwch yn archebu eich stondin.

Adolygir y ceisiadau ar sail nifer o feini prawf gan gynnwys ansawdd, cysondeb y gwaith, pris ac amrywiaeth.  

Ni fydd modd rhoi adborth am unrhyw geisiadau aflwyddiannus.

Ni chodir unrhyw dâl comisiwn ar werthiannau, a byddwch chi’n gyfrifol am ddelio ag unrhyw werthiannau.  

Chi sy’n gyfrifol hefyd am eich cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol chi

Rhaid i stondinwyr ddarparu tystiolaeth o’u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus – rhaid rhoi copi o hwn i Mostyn ymlaen llaw.  Yn ogystal, rhaid i stondinwyr gytuno dilyn a bodloni’r holl ofynion iechyd a diogelwch.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus dalu ffioedd ymlaen llaw ar gyfer yr ffair erbyn Dydd Mercher, 21ain o Mai 2025. Bydd stondinwyr yn derbyn anfoneb ynghyd â’u pecyn gwybodaeth.

Ni roddir unrhyw ad-daliadau dan unrhyw amgylchiadau. Ni fydd modd i unrhyw stondinwyr sy’n canslo drosglwyddo eu stondin i drydydd parti.

Ni all Mostyn fod yn gyfrifol am unrhyw golled/neu ddifrod i unrhyw eiddo neu stoc y rhai sy’n arddangos yn y ffair.

Mae stondinwyr yn atebol am yr holl hawliadau sy’n deillio o’u nwyddau a’u gwasanaethau.

Mae Mostyn yn cadw’r hawl i ofyn bod unrhyw gynnwys neu stondin neu ddodrefn stondin y bernir ei fod yn sarhaus, yn amhriodol neu’n beryglus, yn cael ei waredu.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr