Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Gwefan Llawn Nawr yn Fyw!

Mae’n bleser gan Mostyn lansio ein gwefan newydd lawn, ar ôl 3 mis o ddatblygu a phrofi. 

Pan lansiwyd ein brandio Mostyn newydd yn ein horielau a’n Siop ym mis Mehefin, fe wnaethom hefyd lansio gwefan ar ei newydd wedd. Efallai eich bod wedi sylwi mai dim ond ychydig o wybodaeth yr oedd hyn yn ei gynnig am ein harddangosfeydd cyfredol a sut i ymweld â ni.

Roedd ein hen wefan yn cynnwys dros 10 mlynedd o arddangosfeydd, adnoddau a deunyddiau, ac nid tasg hawdd oedd ei throsglwyddo i gyd! Ers mis Mehefin rydym wedi bod yn uwchlwytho ein harchifau, ailysgrifennu a chreu cynnwys, ailfeddwl llywio a chynnal profion i sicrhau bod y wefan newydd mor hawdd ei defnyddio a hygyrch â phosibl.

Mae nodweddion gwefan newydd yr ydym wedi’u cyflwyno yn cynnwys:

  • Rhagor o wybodaeth am hanes Mostyn a’n gweledigaeth a’n gwerthoedd. Mae ein proses drawsnewid nid yn unig wedi rhoi gwedd newydd i ni, byddwn hefyd yn edrych ar sut rydym yn gwneud pethau mewn ffyrdd newydd. Dim ond y dechrau yw’r brandio newydd!
  • Ffordd haws o ddod o hyd i’n Siop ar-lein, a byddwn nawr yn gallu dangos i chi eitemau sy’n ymwneud ag arddangosfeydd sydd ar gael i’w prynu. 
  • Mwy o wybodaeth am ein prosiectau Dysgu ac Ymgysylltu a’n gwaith o fewn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 
  • Archif adnoddau newydd, fel y gallwch gael mynediad haws at yr holl becynnau ymgysylltu, gweithgareddau, tiwtorialau YouTube a deunyddiau dysgu a grëwyd ar gyfer arddangosfeydd blaenorol.
  • Ffordd gliriach o allu cyfrannu a chefnogi ein gwaith ym Mostyn, ac i ni allu diolch i’r rhai sy’n gallu gwneud hynny.

Rydym yn dal i ychwanegu adnoddau a deunyddiau newydd i’n gwefan, felly byddwch yn amyneddgar wrth i ni gwblhau’r broses hon.

Fodd bynnag, os oes rhywbeth yr hoffech ei weld, neu os sylwch fod rhywbeth ar goll ar ein gwefan newydd, anfonwch e-bost atom i [email protected]. Hoffem yn arbennig glywed gennych os oes ffordd well o ddiwallu eich anghenion hygyrchedd – hoffem barhau i ddysgu a gwella sut rydym yn gwneud pethau. 

Hoffem ddiolch i Gronfa Ddiwylliannol Garfield Weston am gefnogi ein brandio a’n gwefan newydd, ac i Maraid Design am fod yn gymaint o bleser gweithio gyda nhw drwy gydol y broses o ailgynllunio’r wefan. Diolch hefyd i’n intern technoleg gwych, Maria Taggart, am ei holl gymorth a’i gwaith yn uwchlwytho ein harchif.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr