
O ddydd Llun 10fed Hydref bydd ein horielau, Siop a Chaffi nawr ar agor Mawrth i Sadwrn, 10.30am – 4pm.
Mae cynnydd enfawr yn ein biliau ynni dros y misoedd diwethaf wedi golygu bod yn rhaid i ni ailfeddwl am ein horiau agor. Mae ein penderfyniad i gau ar y Sul, ac awr yn gynt bob dydd, felly yn anochel.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynhyrchu arddangosfeydd celf gyfoes eithriadol, cefnogi cannoedd o artistiaid a chyflwyno rhaglenni sy’n ymgysylltu, yn ysbrydoli ac yn cyffroi, ym Mostyn ac o fewn y cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu. Ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr y gallwn barhau i wneud y pethau hyn, a bod yn agored i bawb, am ddim.
Gobeithiwn eich gweld yn Mostyn eto yn fuan.